Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Sir y Fflint wedi ei garcharu ar ôl cyfaddef ysgrifennu negeseuon Facebook oedd yn annog casineb hiliol.
Mi ymddangosodd Daniel Aaron Kingsley, o Plough Lane, Aston, yn Llys y Goron yr Wyddgrug, heddiw, dydd Iau 15 Awst.
Mi gafodd y dyn, 33 oed, ddedfryd o 21 mis ar ôl pledio’n euog i ddosbarthu deunydd ysgrifenedig er mwyn ysgogi casineb hiliol – trosedd o dan Rhannau 19(1) a 27(3) o’r Ddeddf Trefn Cyhoeddus 1986.
Ar ddydd Sadwrn, 10 Awst, mi ddaeth Heddlu Gogledd Cymru yn ymwybodol o ddwy neges hiliol wedi eu cyhoeddi ar Facebook, yn cefnogi’r terfysgoedd diweddar.
Mi wnaeth un o’r negeseuon annog terfysgoedd mewn nifer o lefydd yn ardal Glannau’r Dyfrdwy.
Mi gafodd Kingsley ei adnabod fel y troseddwr a’i arestio’r diwrnod hwnnw. Yn hwyrach, mi gafodd ei gyhuddo o’r drosedd.
Dywedodd y Prif Gwnstabl, Amanda Blakeman KPM: “Mae Heddlu Gogledd Cymru yn cymryd unrhyw honiad o droseddoldeb wirioneddol o ddifri, naill ai ar-lein neu yn y cnawd.
“Mae’r math yma o droseddu yn achosi ofn yn ein cymunedau, ac fel mae’r achos hwn yn dangos, mae’r rhai sy’n ymgysylltu â throseddu ar-lein yn y ffordd hyn am gael eu darganfod a’u rhoi o flaen eu gwell.”