Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae'r ymchwiliad er mwyn cadarnhau achos gwrthdrawiad traffig ffordd angheuol ddoe ym Miwmares ar y gweill.
Toc ar ôl 2:45pm (dydd Mercher, 28 Awst), ymatebodd swyddogion i adroddiadau am wrthdrawiad traffig ffordd ar Stryd Alma rhwng Audi A8 llwyd a dau gerddwr.
Gwnaeth aelodau'r cyhoedd a'r gwasanaethau brys ymateb. Fodd bynnag, er gwaethaf ymdrechion gorau pawb, bu farw'r dyn oedd yn gyrru'r Audi a dau gerddwr (dyn a dynes) yn y fan a'r lle.
Mae eu perthnasau agosaf a'r Crwner wedi cael gwybod.
Dywedodd y Prif Arolygydd Caroline Mullen-Hurst o Heddlu Gogledd Cymru: "Mae ein cydymdeimlad dwysaf ni’n parhau hefo teuluoedd y tri gafodd eu hanafu'n angheuol. Mae pawb bellach yn cael eu helpu gan Swyddogion Cyswllt Teuluoedd sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig.
"'Da ni'n parhau apelio ar unrhyw un a allai fod wedi gweld y digwyddiad sydd ddim eisoes wedi siarad hefo swyddogion, neu unrhyw un a allai fod hefo lluniau camera cerbyd neu ddrws ffrynt i gysylltu hefo ni.
"Bydd y gwrthdrawiad ddoe wedi cael effaith ddwys, nid yn unig ar deuluoedd pawb o dan sylw, ond hefyd ar gymuned ehangach Biwmares. Buaswn yn hoffi manteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb a wnaeth helpu yn y fan a'r lle a'r rheini, gan gynnwys busnesau lleol, a gynigiodd noddfa i bawb a oedd yn gysylltiedig hefo'r digwyddiad.
"'Da ni'n annog pobl i beidio â dyfalu ynghylch amgylchiadau'r gwrthdrawiad. Os oes gan unrhyw un wybodaeth yn ymwneud hefo'r gwrthdrawiad, a phwy sydd eto i siarad hefo ni, maen nhw'n cael eu hannog i gysylltu hefo ni cyn gynted â phosib."
Dylai unrhyw un sydd hefo gwybodaeth a allai helpu hefo'r ymchwiliad sydd ar waith gysylltu hefo swyddogion yn yr Uned Ymchwiliadau Gwrthdrawiadau Difrifol drwy'r wefan neu drwy ffonio 101, gan ddyfynnu cyfeirnod 24000745374.