Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae plentyn wedi'i gludo i'r ysbyty hefo anafiadau difrifol ar ôl ymosodiad gan gi.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ardal North Penrallt, Caernarfon ar ddydd Sul 11 Awst.
Cafodd plentyn wyth oed ei gludo i ysbyty Alder Hey hefo anafiadau sydd am newid ei fywyd ac mae'n parhau yn yr ysbyty ar hyn o bryd.
Mae dyn 44 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o fod yn berchen ar gi allan o reolaeth a pheryglus a achosodd anaf difrifol.
Cafodd y ci o dan sylw ei ddinistrio'n drugarog. Nidydy'r brid wedi cael ei gadarnhau eto.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Richard Griffith: "Mae'r digwyddiad hwn yn ddealladwy wedi achosi pryder yn y gymuned leol a bydd mwy o bresenoldeb gan yr heddlu yn yr ardal at ddibenion tawelu meddwl.
"Mae ein hymchwiliadau'n parhau. Dwi'n apelio ar unrhyw un a welodd neu a allai fod â lluniau o'r digwyddiad gysylltu hefo'r heddlu.
"'Da ni'n parhau helpu teulu'r plentyn yn ystod y cyfnod trawmatig hwn a 'da ni'n gofyn i chi barchu eu preifatrwydd nhw."
Gofynnir i unrhyw un sydd hefo gwybodaeth am y digwyddiad hwn gysylltu hefo'r heddlu drwy'n gwefan ni neu drwy ffonio 101 gan ddyfynnu cyfeirnod Q119639.