Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Anfonwyd dyn i garchar am bum mlynedd ar ôl tagu ei bartner, cadw dyn yn wystl ac yna dwyn fan.
Ymddangosodd Dewi Cledwyn Hughes o Stryd Tŵr Cuhelyn, Llanerchymedd yn Llys y Goron yr Wyddgrug ar 6 Awst ar ôl cael ei ganfod yn euog o dagu bwriadol, dau gyhuddiad o ymosod drwy guro, pledio’n euog i garcharu ar gam, bygwth person gyda chyllell, dwyn cerbyd a gyrru yn beryglus, gyrru tra ei fod wedi ei wahardd a bod â chocên yn ei feddiant.
Ym mis Rhagfyr 2022, roedd y dyn sydd bellach yn 34 oed yn dadlau gyda’i bartner pan wnaeth afael ynddi wrth ei hysgwyddau, ei gwthio yn erbyn wal a’i thagu hyd nes iddi fynd yn anymwybodol. Pan ddeffrodd dywedodd wrthi nad oedd ‘wedi gwneud hynny’n rhy galed.’
Fis Chwefror 2023, roedd Hughes unwaith eto yn ffraeo gyda’i bartner ac unwaith eto mi wnaeth afael yn ei gwallt, ei llusgo o gwmpas a’i chicio. Ar achlysur arall mi wnaeth ei phrocio hi yn ei llygad gan ei chleisio a’i brifo.
Cafodd ei arestio am y digwyddiadau hyn a’i gyhuddo ym Mai 2023.
Yn ystod ei gyfnod ar fechnïaeth am y troseddau hyn ym mis Ionawr 2024 roedd Hughes yn teithio mewn car pan dechreuodd ymddwyn yn ymosodol tuag at y gyrrwr, gan dynnu allan cyllell fara gan fygwth lladd y gyrrwr.
Mi wnaeth Hughes gadw y gyrrwr yn wystl yn ei fan am dair awr, gan daflu ffôn y dyn allan o’r ffenest fel na allai alw am help. Rhoddodd y gyllell wrth wddf y gyrrwr a bygwth ei drywanu.
Pan wnaeth y fan rhedeg allan o danwydd llwyddodd y gyrrwr i ddianc a galw’r heddlu.
Canfuwyd y fan yn ardal Mynydd Mechell a dechreuodd swyddogion chwilio am Hughes pan wnaeth ddwyn fan arall gan yrru ddwywaith yn gynt na’r cyfyngder cyflymder.
Bu’r heddlu yn erlid Hughes, a oedd yn parhau i yrru’n beryglus ar ffyrdd cul a thywyll hyd nes i’r fan lynu mewn mwd.
Daeth allan o’r fan a chafodd ei arestio.
Heddiw, cafodd ei garcharu am bum mlynedd.
Derbyniodd ddau orchymyn atal i beidio â chysylltu â’r dioddefwyr yn y ddau achos nac i fynd atynt.
Dywedodd yr Arolygydd Richard Griffith: “Roedd ymddygiad treisgar a bygythiol Hughes yn ystod y ddau ddigwyddiad hwn yn arbennig o beryglus ac yn dangos nad oes ganddo unrhyw barch at ddiogelwch a lles eraill.
“Mae’r dioddefwyr wedi bod yn ddewr iawn yn riportio’r hyn a wnaeth ddigwydd iddynt yn dilyn profiadau trawmatig a brawychus.
“Gobeithio y bydd y ddedfryd heddiw yn rhoi sicrwydd iddynt y gallant symud ymlaen gyda’u bywydau gan wybod nad yw bellach o gwmpas yn y gymuned.”
Os ydych yn dioddef neu wedi dioddef cam-drin domestig, rhowch wybod i ni neu drwy Byw’n Rhydd o Ofn (Live Fear Free) ar 0808 80 10 800.