Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
O ganlyniad ymgyrch yn targedu y rhai sy’n troseddu ar ffyrdd ledled De Gwynedd, mae nifer o hysbysiadau wedi’u cyhoeddi i yrwyr yn ystod y mis diwethaf.
Yn ystod mis Gorffennaf, mi wnaeth swyddogion gymryd rhan yn Ymgyrch Clench, lle canfuwyd bod nifer o yrwyr yn cyflawni troseddau gyrru, gan gynnwys gyrru o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau, neu yrru heb drwydded ddilys.
Yn ystod y mis, mi gyhoeddwyd 33 Hysbysiad Trosedd Traffig (TOR), gan gynnwys:
O’r rhai efo mân wallau, mi roddwyd hysbysiad Cynllun Cywiro Gwallau Cerbyd (VDRS), sy’n cyfeirio defnyddwyr y ffyrdd i gywiro unrhyw wallau sydd wedi’u nodi gan yr heddlu, a darparu tystiolaeth o hyn i’r heddlu o fewn 14 diwrnod.
Mi gafodd saith cerbyd ei atafaelu, oherwydd eu bod yn cael eu gyrru heb drwydded neu yswiriant.
Mi wnaethon ni 13 arestiad, hefyd, gan gynnwys:
Mi roddwyd tri hysbysiad Adran 59 i rai oedd yn gyrru mewn ffordd di-ofal neu wrthgymdeithasol. Os mae unigolyn yn derbyn dau o’r rhybuddion yma o fewn cyfnod o 12 mis, mae eu cerbyd yn cael ei atafaelu.
Ar ben hyn, cafodd pedwar cerbyd eu stopio a’u chwilio, efo’r canlyniadau canlynol:
Dywedodd Iwan Jones, Arolygydd Ardal De Gwynedd: “’Roedd Ymgyrch Clench yn targedu gyrwyr sy’n torri’r gyfraith ac yn peryglu defnyddwyr eraill y ffyrdd.
“Nid rhwystro pobl rhag mwynhau eu hunain ydy’r nod, ond ‘da ni eisiau annog holl ddefnyddwyr y ffyrdd fod yn ddiogel ac yn gymwys, efo’r nod o leihau’r nifer o gwrthdrawiadau ar ein ffyrdd.
“Diolch i aelodau’r gymuned wnaeth gynorthwyo’r ymgyrch a rhannu’u pryderon efo ni.”
Os oes gennych chi bryderon am yrwyr peryglus neu anghyfreithlon yn eich hardal chi, cysylltwch efo’r heddlu drwy ein gwefan, neu drwy ffonio 101, neu yn ddienw drwy Crimestoppers.