Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cafodd Gwobrau Cymunedol Blynyddol Uchel Siryf Clwyd eu cynnal ar ddydd Sadwrn 9 Mawrth ym Mryncunallt, y Waun – cartref Kate Hill-Trevor, yr Uchel Siryf ar hyn o bryd.
Cafodd y rhai a gafodd wahoddiad i ddod eu henwebu gan bobl eraill yn y gymuned. Roedd yr Uchel Siryf wrth ei bodd yn cael eu cydnabod a diolch iddynt yn bersonol am eu hymroddiad i'r sector gwirfoddol a'u cymunedau lleol.
Dywedodd Kate Hill-Trevor: "Mae bod yn Uchel Siryf yn fraint aruthrol sydd wedi rhoi'r cyfle i mi ddysgu am y prosiectau ysbrydoledig sy'n digwydd yma yng Ngogledd Cymru a chyfarfod hefo pobl anhygoel. Mae gwirfoddolwyr ar waith yng nghalon bob cymuned yn y DU. Mae miliynau o bobl sy'n rhoi o'u hamser a'u sgiliau i elusennau a phrosiectau cymunedol yn rhan hanfodol o'r byd heddiw.
Serch hynny, mae'r gwaith hwn yn aml yn anweledig ac yn ddi-glod. Mae'r gwobrau hyn yn rhoi'r cyfle cydnabod nifer fach o wirfoddolwyr a sefydliadau sy'n gweithio'n ddiflino o fewn Clwyd yn gwneud gwahaniaeth i'r bobl o'u hamgylch nhw."
Fe wnaeth yr Uchel Siryf hefyd groesawu enillwyr Prosiect y Flwyddyn Trechu Trosedd Gogledd Cymru yng Nghlwyd. Clwb Bocsio Amatur Ieuenctid Y Rhyl – wedi'u dewis er mwyn cydnabod y gwaith rhagorol gafodd ei wneud gan y clwb er mwyn helpu pobl ifanc yn y Rhyl. Fe wnaeth gyflwyno tlws gwydr i'r Prif Hyfforddwr – Dan Andrews, A-J Hughes sef un o'r bocswyr ifanc a PC Simon Keeting o Heddlu Gogledd Cymru sydd hefyd yn Hyfforddwr gwirfoddol yn y Clwb.
Fe ddywedodd: "Mae Trechu Trosedd yn helpu prosiectau sy'n helpu cadw pobl ifanc rhag helynt, helpu dioddefwyr trosedd, creu diddordeb mewn gwaith gwirfoddol, gwella presenoldeb yn yr ysgol ac ymddygiad a gwella bywydau pawb yn y gymuned. Mae enillwyr eleni yn glwb nid er elw sy'n rhoi hyfforddiant bocsio i bobl ifanc o bob cefndir cymdeithasol ynghyd â rhai hefo anableddau a sawl ceisiwr lloches o Wcráin. Maen nhw'n creu cyfeillgarwch, parch a help rhwng cenedlaethau gwahanol a hefo'r heddlu, gan helpu hefo cydlyniad cymdeithasol a gostyngiad mewn problemau ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr ardal. Maen nhw'n esiampl hyfryd o'r math o brosiect mae Trechu Trosedd yn ei helpu."
Mae enwebiadau ar gyfer y Gwobrau Cymunedol yn cael eu ceisio bob blwyddyn, hefo 2 unigolyn ac un grŵp yn cael eu dewis o bob un o'r pedair ardal (siroedd Conwy, Dinbych, y Fflint a Wrecsam) sy’n ffurfio Clwyd sydd rŵan yn sir warchodedig seremonïol.
Roedd yr Uchel Siryf wrth ei bod o gael nifer sylweddol o enwebiadau gan ystod eang o bobl a sefydliadau. Dywedodd: “Mae hyn yn adlewyrchiad hyfryd o gryfder y sector gwirfoddol yma yng Ngogledd Cymru, ond mae'n ei gwneud hi'n anodd iawn i'r panel ddewis yr enillwyr."
Cyflwynwyd y gwobrau ym mhresenoldeb yr Arglwydd-Raglaw Henry Fetherstonhaugh OBE FRAgs; yr Uwcharolygydd Jon Bowcott; Mark Owen MBE, Prif Swyddog yr Heddlu Gwirfoddol; Ashley Rogers, Cadeirydd PACT (Ymddiriedolaeth yr Heddlu a'r Gymuned); Mrs Sarah Noton, Is Siryf Clwyd, o Gyfreithwyr Swayne Johnson; cyn Uchel Siryfion; y Prif Swyddogion; a chynrychiolwyr o bedwar Cyngor Gwirfoddol yr ardal a gwesteion dethol.
Mae enillwyr bob ardal fel a ganlyn:
CONWY
Jenny a Hughie Fitzpatrick I gydnabod eu gwaith yn helpu cymunedau Bae Cinmel.
Ann Vaughan I gydnabod ei hymroddiad i gefnogi cymunedau Bro Cernyw.
Incredible Edible Colwyn I gydnabod eu gwaith yn sefydlu sawl gardd fwytadwy gymunedol ym Mae Colwyn.
SIR DDINBYCH
Nerys Haf Biddulph I gydnabod ei gwaith yn cynorthwyo cymunedau ceiswyr lloches yn y Rhyl a Phrestatyn.
Malcolm Wilkinson I gydnabod ei waith hefo Cyfeillion y Ffrith a grwpiau cymunedol ym Mhrestatyn a Galltmelyd.
Gweithdy Dinbych I gydnabod eu rhaglen ysgol haf yn gweithio hefo pobl ifanc o dan anfantais.
SIR Y FFLINT
Stephen Jones I gydnabod ei waith yn helpu a hyrwyddo chwaraeon anabl yn Sir y Fflint a thu hwnt.
Daniel Reynolds I gydnabod dros 15 mlynedd o wirfoddoli er mwyn helpu pobl ifanc Sgowtiaid 1af Mynydd Isa.
RainbowBiz CIC I gydnabod eu gwaith yn hyrwyddo amrywiaeth mewn cymunedau ar draws Sir y Fflint.
WRECSAM
Caroline Richards I gydnabod ei gwaith yn trawsnewid bywydau pobl ifanc drwy gerddoriaeth.
Hywel Williams I gydnabod dros 15 mlynedd o wirfoddoli er mwyn helpu Apêl Pabi Coch y Lleng Brydeinig Frenhinol.
Grŵp Cinio a Chaffi Merffordd a Gresffordd I gydnabod mwy o'u gwaith ymroddedig er mwyn helpu pobl hŷn yn eu cymunedau.
Rhoddwyd Gwobrau Arbennig yr Uchel Siryf i:
Anna Buckley I gydnabod ei gwaith diflino'n helpu ceiswyr lloches a dioddefwyr y rhyfel yn Wcráin.
Sion Edwards a Nicholas James I gydnabod eu gwaith ysbrydoledig hefo pobl ifanc ym Mhrosiect Cynnwys Ieuenctid The Venture.
Dylanwadwyr Ifanc AVOW I gydnabod eu gwaith yn helpu pobl ifanc Wrecsam.
Rhoddwyd Gwobrau Personol yr Uchel Siryf i:
Cadetiaid Gwirfoddol yr Heddlu – Brooke Blake-Hains a Steffan Lea
I gydnabod eu brwdfrydedd a'u hymroddiad nhw fel Cadetiaid yr Uchel Siryf ac am fod yn aelodau gwerthfawr Pwyllgor Trechu Trosedd Clwyd.
I gydnabod eu gwaith yn datblygu rhaglenni er mwyn ysbrydoli a helpu pobl ifanc leol.
Sefydliad y DPJ I gydnabod eu gwaith o ran iechyd meddwl mewn cymunedau cefn gwlad, yn helpu'r bobl hynny hefo problemau, yn codi ymwybyddiaeth ac yn rhoi hyfforddiant o fewn y sector amaethyddol.
Theatr Clwyd I gydnabod eu gwaith nhw hefo'r rhaglen addysg trosedd Cyfiawnder mewn Diwrnod a phrosiectau lluosog sy'n elwa'r gymuned leol.
Cylch Cyfeillion Ysbyty'r Waun I gydnabod eu codi pres parhaus a'u gwelliannau mewn offer a gwasanaethau ar gyfer ysbyty cymunedol a nyrsys y Waun.
Ymddiriedolaeth Gymunedol CCPD Wrecsam I gydnabod prosiectau cymunedol a gwaith cydlyniad cymdeithasol y Clwb.
Cadét Gwirfoddol Heddlu Gogledd Cymru Arweinwyr I gydnabod y gwaith gwirfoddol a roddwyd er mwyn helpu ac ysbrydoli Cadetiaid Gwirfoddol yr Heddlu.
Tîm Gwirfoddolwyr Gogledd Ddwyrain Cymru'r Cynllun Gerddi Cenedlaethol I gydnabod eu gwaith yn helpu agor nifer o erddi'r Cynllun ar draws yr ardal bob blwyddyn, gan godi symiau sylweddol i elusennau lluosog
Codwyr Sbwriel Wrecsam I gydnabod eu hymroddiad i gadw pobl leol yn rhydd o sbwriel a chreu ysbryd cymunedol cryfach.
Fe wnaeth yr Uchel Siryf ddarfod drwy ddiolch i'r Prif Swyddog sef Dawn Roberts-McCabe a Ken Rowlands o Gyngor Gwirfoddol Sirol Wrecsam a wnaeth hwyluso'r broses enwebu eleni. Fe wnaeth hefyd ddiolch yn fawr i Heddlu Gogledd Cymru, PACT a Threchu Trosedd Gogledd Cymru am eu hymgysylltu diddiwedd hefo Uchel Siryfion Clwyd a Gwynedd.
Dechreuodd cyfnod Mrs Hill-Trevor fel Uchel Siryf Clwyd ym mis Ebrill 2023 a bydd yn darfod yn fuan gan fod y swydd ond am flwyddyn. Mae seremoni'r Gwobrau Cymunedol yn un o uchafbwyntiau blwyddyn yr Uchel Siryf. Dywedodd Mrs Hill-Trevor: "Mae Clwyd yn falch iawn o gael sector gwirfoddol mor gryf ac egnïol. Dwi'n sicr wedi cael fy ysbrydoli gan bawb dwi wedi cyfarfod yn ystod fy mlwyddyn yn y swydd.
Dwi'n gobeithio bydd y gwobrau hyn hefyd yn annog mwy o bobl roi cynnig ar wirfoddoli. Mae cyfle gwirfoddol gwirioneddol yno i bawb. Gallwn wneud gwahaniaeth hefo'n gilydd."
Yn dilyn y gwobrau, fe wnaeth gwesteion fwynhau te prynhawn a'r cyfle i rannu straeon am eu teithiau gwirfoddoli yn lleoliad hanesyddol Bryncunallt.