Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae tri o bobl wedi cael eu harestio yn dilyn ymgyrch er mwyn taclo cyffuriau ar Ynys Môn.
Yr wythnos ddiwethaf, fe wnaeth swyddogion ar Ynys Môn gynnal ymgyrch er mwyn syrthio'n drwm ar droseddoldeb yn berthnasol i linellau cyffuriau.
Cafodd tri dyn o ardal Caergybi eu harestio ar amheuaeth o fod ynghylch cyflenwi cyffuriau dosbarth A a B, meddu eiddo troseddol a meddu hefo'r bwriad o gyflenwi cyffuriau. Maen nhw bellach wedi cael eu rhyddhau o dan ymchwiliad tra mae ein hymholiadau ni’n parhau.
Cafodd nifer o gyffuriau dosbarth A a B, ynghyd â swm mawr o arian parod eu hatafaelu ar y diwrnod.
Dywedodd yr Arolygydd Ardal Gareth Parry: "Does dim croeso i'r rhai hynny sy'n ceisio dod â chyffuriau i'n cymunedau ni a thargedu trigolion bregus ar Ynys Môn.
"'Da ni'n parhau gweithio ar draws yr ardal er mwyn mynd ati i dargedu'r rhai hynny sydd ynghylch llinellau cyffuriau grwpiau trosedd trefnedig."
Os oes gynno chi unrhyw bryderon am gyffuriau yn eich ardal, cysylltwch hefo'r heddlu drwy ein gwefan ni, drwy ffonio 101, neu'n ddi-enw drwy Crimestoppers.