Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yr wythnos hon rydym yn ymuno â heddluoedd ledled y DU er mwyn dathlu'r cyfraniad sy'n cael ei wneud gan staff yr heddlu.
Mae Swyddogion Cefnogi Cymuned yr Heddlu (SCCH) yn swyddogion mewn lifrai sy'n gweithio gyda thrigolion ac asiantaethau partner i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol er mwyn gwella bywyd yn ein cymunedau lleol.
Mae SCCH Shannon Llwyd-Hopcroft yn gweithio yn ardal Dolgellau yn Ne Gwynedd ac wedi bod yn gwneud y swydd am bron i chwe blynedd ar ôl ymuno yn 2017.
Mae wedi gwirfoddoli hefyd am ddwy flynedd fel Swyddog Gwirfoddol yn Heddlu Gogledd Cymru.
Dywedodd SCCH Shannon: "Mi wnes i ymuno fel SCCh gan fy mod am weithio o fewn y gymuned a gwneud gwahaniaeth ym mywydau pobl.
“Mae gweithio mewn tîm agos yn gwneud y swydd yn un gwerth chweil. O fewn y rôl, dw i'n cael cyfle i fod y tu allan ar batrôl yn cwrdd â phobl newydd.
"Dw i wedi gorfod delio â nifer o swyddi sy'n gallu bod yn heriol yn feddyliol ac yn gorfforol. Dw i wedi bod yn rhan o nifer o ymgyrchoedd yn cynnwys targedu gyrru oddi ar y ffordd fawr, dwyn o siopau a throseddau cyllyll. Dw i wedi gwneud sawl cyflwyniad mewn colegau lleol ac ysgolion ar bynciau pwysig fel bwlio a throseddau seibr.
"Mae hyn yn golygu nad yw unrhyw ddau ddydd yn debyg a dw i'n edrych ymlaen at weithio i Heddlu Gogledd Cymru am flynyddoedd i ddod."
Ceir mwy o wybodaeth am yrfaoedd staff yr heddlu ar ein gwefan.