Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
O daclo trais yn erbyn merched, helpu dal rhai sy’n lladd ac amddiffyn iechyd meddwl ein hymatebwyr cyntaf – rydym yn dathlu rhai o arwyr tawel plismona.
Yr wythnos yma bydd lluoedd yr heddlu ar draws y Deyrnas Unedig yn dod at ei gilydd er mwyn dathlu cyfraniad staff yr heddlu.
Wedi’i lansio gan yr NPCC (National Police Chief’s Council) gyda chefnogaeth gan y Coleg Plismona, mae Wythnos Dathlu a Chydnabod Staff yr Heddlu cyntaf o’i fath yn gobeithio amlygu unigolion sy’n chwarae rhan bwysig o fewn y tîm plismona.
Fel rhan o’r wythnos, bydd lluoedd yr heddlu yn dathlu’r cyfraniad gan y rhai sy’n gweithio ar draws plismona – gan gynnwys trinwyr galwadau, ymchwilwyr gwrthdrawiadau fforensig, Swyddogion Cefnogi Cymunedol ynghyd â’r rhai sy’n rheoli troseddwyr rhyw yn y gymuned, dadansoddwyr, fflyd, cyllid a mwy.
Y gobaith yw y bydd y gydnabyddiaeth yma yn annog pobl broffesiynol i feddwl am ddyfodol ym maes plismona.
Mae Amanda Blakeman, Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru wedi croesawu’r wythnos o ddathlu ac wedi canmol staff yr heddlu. Meddai hi: “Nid yw’r rôl mae staff yr heddlu yn ei wneud ar draws plismona yn y DU yn cael ei ddeall ac mae’n haeddu mwy o gydnabyddiaeth. Mae staff yr heddlu ar y rheng flaen yn ateb galwadau, cadw carcharorion yn ddiogel ac yn helpu cynyddu ymchwiliadau ynghyd ag addysgu a rhoi gwybodaeth i'n cymunedau.
“Mae’r wythnos yma i gyd yn ymwneud â chydnabod y cyfraniad hanfodol hwn ac yn dangos i’r cyhoedd fod staff yr heddlu, fel swyddogion, yn chwarae rôl bwysig ym maes plismona, yn diogelu cymunedau ac yn cyfrannu at gyfiawnder effeithiol. Mae cymaint o gyfleoedd gyrfaoedd cyffrous ar gael.
“Mae ein cymuned plismona yn amrywiol ac yn cynnwys swyddogion, staff a gwirfoddolwyr a dylai’r cyhoedd wybod pan byddant ein hangen, rydym yn dod at ein gilydd, gan weithio fel un er mwyn helpu.
“Eu harbenigedd, ymrwymiad a’u proffesiynoldeb sy’n helpu dod ag ymchwiliadau yn eu blaenau, cael cyfiawnder i ddioddefwyr, caniatáu ymateb effeithiol i ddigwyddiadau argyfyngus a chefnogi’r gweithle.
“Nid disgyn ar ddamwain i faes plismona wnaeth y rhan fwyaf o staff yr heddlu, fe wnaeth llawer benderfyniad cydwybodol oherwydd eu bod nhw eisiau gwneud gwahaniaeth a helpu eraill. Mae’n bwysig ein bod ni’n cymeradwyo’r angerdd yma fel ein bod ni’n gallu annog eraill i mewn i’r gwasanaeth a chydnabod yr effaith mae staff yn cael ar blismona yn ei gyfanrwydd, yn helpu diogelu ein cymunedau.
Fe ychwanegodd: “Hoffwn ddiolch i bob aelod o staff a gwirfoddolwr yn bersonol am y rôl anferth maent yn ei chwarae yn gwneud Gogledd Cymru y lle mwyaf diogel i fyw, gweithio ac ymweld â hi yn y Deyrnas Unedig.”
O ymchwilio olion bysedd i reoli’r systemau TG, i drinwyr galwadau a chadw rheolaeth ar gyllid, mae staff yr heddlu yn chwarae rôl annatod yn llwyddiant yr heddlu.
Mae gan Heddlu Gogledd Cymru ystod fawr o gyfleoedd i staff. Gallwch ddilyn gyrfa gyffrous beth bynnag fo’ch dewis o faes. Gan weithio ochr yn ochr â swyddogion rheng flaen, mae staff yr heddlu yn cadw’r Heddlu i redeg yn esmwyth.
Er mwyn dysgu mwy plis ewch draw i’n tudalen Gyrfaoedd Gyrfaoedd | Heddlu Gogledd Cymru (northwales.police.uk)
Gallwch ddilyn yr ymgyrch ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnod #DathluStaffYrHeddlu a dysgu mwy am waith rhai o’n staff arbennig a’r cyfleoedd sydd ar gael.