Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Bydd mwy o swyddogion ar batrôl yng nghanol dinas Wrecsam y penwythnos hwn fel rhan o drefniadau plismona.
Bydd gêm yr ail gynghrair rhwng Wrecsam a Tranmere Rovers yn cael ei chwarae am 3pm ar ddydd Sadwrn, 16 Mawrth.
Disgwylir torf fawr yn stadiwm STōK gan fod disgwyl i tua 12,500 o gefnogwyr ddod i weld y gêm.
Mae'r heddlu yn mynd i gynyddu eu hadnoddau i sicrhau diogelwch y cyhoedd, gyda nifer o gefnogwyr yn debygol o fynd i dafarnau'r ddinas cyn ac ar ôl y gêm.
Dywedodd yr Arolygydd Jon Aspinall: “Mae diogelu'r cefnogwyr a'r gymuned yn flaenoriaeth i ni ar ddiwrnod gêm yn enwedig pan fydd y dorf yn enfawr.
“Dylai mynd i gemau yn Wrecsam fod yn achlysur pleserus i bawb, yn enwedig pan fydd y clwb yn gwneud yn dda ar ac oddi ar y cae.
“Wrth i ni gyrraedd wythnosau olaf y tymor, hoffwn annog cefnogwyr Wrecsam i fod yn deilwng o'u clwb ar ddydd Sadwrn ac yn y gemau sydd ar ôl."
Mae cyfanswm o 20 Orchmynion Gwahardd Pêl-droed wedi cael eu cyhoeddi, neu yn cael eu trin ar hyn o bryd, i gefnogwyr Wrecsam am achosi anrhefn ar ddiwrnod gêm y tymor hwn.
Cred y Prif Arolygydd Aspinall bod gorfodi Gorchymyn Gwahardd Pêl-droed yn ffordd effeithiol o atal unrhyw un rhag creu anhrefn.
Ychwanegodd: "Mae Heddlu Gogledd Cymru a Chlwb Pêl-droed Wrecsam yn gytûn yn eu barn ar ymddygiad cefnogwyr mewn gemau pêl-droed a bydd cosbi llym yn digwydd yn erbyn unrhyw anhrefn yn ymwneud â phêl-droed. Byddwn yn parhau i gydweithio gyda'r clwb yn gosod mwy o orchmynion os oes angen.
"Rydym yn gwybod fod y mwyafrif o gefnogwyr yn ymddwyn yn gyfrifol ac maent yn destun balchder i'r ddinas a'r clwb.
"Fel heddlu, byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda'r clwb, y cefnogwyr a'r gymuned ehangach er mwyn sicrhau fod diwrnod gêm yn Wrecsam yn ddiogel a dymunol i bawb.
"Hoffwn ddiolch i'r gymuned ehangach yn Wrecsam am eu hamynedd ar ddydd Sadwrn. Byddwn yn gwneud ein gorau i leihau unrhyw anghyfleustra yng nghanol y dref yn ystod y dydd."