Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
"Mae pob sifft yn wahanol. 'Da chi byth yn siŵr hefo beth fyddwch chi'n delio ar ddechrau bob dydd. Dyna un o'r pethau dwi'n hoffi fwyaf am y swydd."
Yn Gyfathrebwr profiadol yn Heddlu Gogledd Cymru, mae Adam wedi bod hefo'r heddlu ers chwe blynedd.
Mae Cyfathrebwyr yn rôl weithredol hanfodol ac maent yn ganolog i'n nod hanfodol o gadw'r cyhoedd yn saff.
Wedi lleoli yng Nghanolfan Gyfathrebu'r Heddlu yn Llanelwy, mae gofyn iddyn nhw ateb galwadau 999, yn aml mewn sefyllfaoedd argyfyngus a gofidus.
Maen nhw hefyd yn gyfrifol am ddelio hefo galwadau difrys (101), a chyfathrebu digidol fel sgyrsiau we byw ac ymholiadau ar e-bost.
I lawer, Cyfathrebwyr ydy'r pwynt cyswllt cyntaf i aelodau'r cyhoedd sydd angen help yr heddlu.
Dywedodd Adam: "Er mwyn llwyddo yn y rôl hon, rhaid i chi fod yn gyfathrebwr da'n gyntaf. Mae hefyd yn helpu bod yn un da am wneud penderfyniadau a meddwl yn gyflym.
"Fel triniwr galwadau, efallai byddwch chi'n siarad hefo plentyn ofnus sy'n riportio achos domestig yn eu cartref nhw.
"Ers dod yn dad fy hun, mae galwadau fel hyn yn gallu eich effeithio chi a 'da chi'n gwybod pa mor hanfodol ydy hi ymateb i'r jobsys hyn yn gyflym.
"Ar yr alwad nesaf, efallai byddwch chi'n siarad hefo rhywun 80 oed hefo dementia sy'n teimlo eu bod nhw mewn argyfwng.
"Pa bynnag fath o sefyllfa 'da chi'n delio hefo hi, 'da chi angen cadarnhau'r ffeithiau'n gyflym ac asesu'r bygythiad yn gywir.
"Pan mae'r achosion hyn yn cael eu pasio 'mlaen i swyddogion gan ein Dosbarthwyr ni, 'da ni bob amser yn gwneud yn siŵr fod gan swyddogion gymaint o fanylion â phosibl er mwyn lliniaru'r risg iddyn nhw a'r cyhoedd."
Wedi gweithio i Gyngor Sir y Fflint o'r blaen, roedd Adam yn awyddus dilyn gyrfa mewn plismona ac fe wnaeth ymgeisio yn ystod ffenest recriwtio yn 2018.
Ers ymuno, mae magu cyfoeth o brofiad ac mae wedi bod yn oruchwyliwr yn y Ganolfan yn y cyfnod hwnnw.
Wrth adlewyrchu ar ei gyfnod hefo HGC hyd yma, dywedodd Adam: "Mae'n rôl heriol, ond yn rôl werth chweil. Ein prif flaenoriaeth ydy cadw'r cyhoedd a'n swyddogion yn saff.
"I rywun sy'n meddwl rhoi cynnig arni, buaswn i'n dweud 'ewch amdani'.
"Mi gewch chi hyfforddiant llawn a dod yn rhan o dîm gwych a chroesawgar yma. Dwi wedi gwneud ffrindiau gwych a dwi'n cymdeithasu hefo nhw tu allan i'r gwaith.
"Ymdrech tîm ydy plismona go iawn, ac mae rôl pawb yn bwysig.
"Fel y cyswllt cyntaf hefo'r heddlu, mae gynno ni ddyletswydd helpu mor gyflym â phosibl.
"Pan 'da ni'n gneud hynny, mae'n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i'r cymunedau 'da ni'n eu gwasanaethu.
"Buaswn i hefyd yn dweud fod yr heddlu'n cynnig help lles i unrhyw un o'i staff sy'n teimlo eu bod ei angen.
"Mae'n bwysig fod help yno, yn enwedig os 'da chi ynghlwm mewn helpu hefo digwyddiad trawmatig."
Geiriad: Adam (canol) yn dal tlws a enillwyd gyda thîm pêl-droed HGC y tymor diwethaf.
Drwy sefydliadau fel y Gymdeithas Chwaraeon, mae'r heddlu hefyd yn rhoi cyfleoedd gwych i staff tu allan i'r gwaith.
Dechreuodd Adam chwarae i dîm pêl droed Heddlu Gogledd Cymru yn 2019 ac mae ar hyn o bryd yn rheolwr y tîm.
Mae'r tîm yn cystadlu mewn dwy gystadleuaeth yn erbyn heddluoedd eraill y DU. Fe wnaeth ennill Cynghrair y Gwasanaethau Brys am y tro cyntaf y tymor diwethaf.
"Mae bod mewn tîm yn wych. Yn eich amser rhydd, 'da chi'n teithio er mwyn chwarae yn erbyn timau heddlu a mae rhywun yn gofalu amdanoch chi'n dda.
"Nid dim ond pêl droed dynion chwaith. Os 'da chi'n hoffi chwaraeon, mae gan yr heddlu dîm merched hefyd, ynghyd â thimau rygbi, pêl rwyd, rhedeg, 'cross-fit', crefftau ymladd a llawer o rai eraill.
"Mae'r rhain i gyd yn cael eu rhedeg gan y Gymdeithas Chwaraeon ac maen nhw bob amser yn agored i aelodau newydd."
Hefo diddordeb? Mae'r ffenest recriwtio ar gyfer Cyfathrebwyr yn agor rwan.
Os 'da chi neu unrhyw un 'da chi'n 'nabod hefo diddordeb ymgeisio, gallwch chi wybod mwy am y rôl yma: Gweithredwr Cyfathrebiadau - (tal.net)