Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 65 oed wnaeth ymosod ar ei wraig wrth iddi gysgu wedi cael ei garcharu.
Ymddangosodd Robert Pinnington, o Gwynfryn, Y Fron, Caernarfon, ger bron Llys y Goron Caernarfon ar ddydd Gwener 22 Mawrth, ar ôl pledio'n euog i ymosod gan achosi niwed corfforol gwirioneddol, tagu bwriadol a bygythiadau i ladd.
Cafodd ei garcharu am dair blynedd ac fe dderbyniodd orchymyn atal yn erbyn ei wraig am 15 mlynedd.
Ar 1 Tachwedd llynedd, roedd gwraig Pinnington yn cysgu yn y gwely pan wnaeth frathu ei gwefus waelod, gan achosi i'w cheg lenwi hefo gwaed cyn ei thagu hi a bygwth ei lladd hi.
Yn y diwedd, fe wnaeth hi lwyddo dianc ar ôl gweiddi ar ei merch am help.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Jamie Atkinson: "Roedd hwn yn ymosodiad hynod dreisgar a direswm a fydd yn parhau cael effaith sylweddol ar y dioddefwr a'i theulu hi.
"Dwi'n gobeithio bydd y canlyniad hwn yn rhoi tawelwch meddwl fod cyfiawnder wedi cael ei gyflawni.
"'Da ni'n parhau mynd ati nodi troseddwyr trais domestig a byddwn yn ymchwilio unrhyw adroddiad yn llawn.
"Os 'da chi'n 'nabod rhywun sy'n dioddef trais domestig ac yn gallu cael y dewrder i ddod ymlaen, cysylltwch hefo ni neu siarad hefo Byw Heb Ofn.
“Fe wnawn ni wrando a gwneud popeth yn ein gallu ni er mwyn eich helpu chi."
Mae Ymgyrch Unite yn ymateb Heddlu Gogledd Cymru i ymdrin â thrais yn erbyn merched a genethod. Ceir mwy o wybodaeth ar: Ymgyrch Unite | Heddlu Gogledd Cymru