Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Roedd cyn swyddog heddlu a blediodd yn euog i dri achos o ymosod yn rhywiol ar 8 Chwefror 2024 yn Llys y Goron Caer, yn destun Gwrandawiad Camymddwyn yr Heddlu ym Mhencadlys yr Heddlu ym Mae Colwyn heddiw.
Canfuwyd fod Joseph Robinson wedi torri'r Safonau Ymddygiad Proffesiynol o ran Ymddygiad Cywilyddus. Bydd yn cael ei roi ar y 'Rhestr Pobl Waharddedig', sy'n golygu na fydd yn gallu gwasanaethu fel swyddog heddlu ar unrhyw adeg yn y dyfodol.
Wrth siarad ar ôl y gwrandawiad camymddwyn heddiw, dywedodd y Prif Gwnstabl Amanda Blakeman KPM: "Ers dechrau fy rôl fel Prif Gwnstabl, dwi wedi bod yn ofnadwy o glir fod rhai i'm holl swyddogion a staff ymddwyn i'r safonau uchaf y mae gan y cyhoedd hawl i'w disgwyl.
"Roedd ymddygiad Robinson y noson honno'n gwbl annerbyniol ac yn anghydnaws hefo'i rôl, sef ymroi gwarchod cymunedau Gogledd Cymru.
"Mae trais yn erbyn merched a genethod yn ganolbwynt cenedlaethol i blismona. Does dim lle i ymddygiad Robinson yn ein cymdeithas ni ac yn sicr ddim yn Heddlu Gogledd Cymru.
"Fel Arweinydd Heddlu Cymru Gyfan dros Drais yn Erbyn Merched a Genethod, dydw i ddim yn goddef unrhyw un yn ein cymdeithas ni sy'n troseddu fel hyn. Mae bod yn swyddog yng Ngogledd Cymru yn fraint ac yn gyfrifoldeb. Gall y swyddogion a staff sy'n troseddu fel hyn ddisgwyl y gosb fwyaf difrifol."