Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
"Y cyngor fuaswn i wedi'i roi i fi yn iau fuasai: cefnoga dy hun a gwybod dy fod yn gallu ei wneud o."
Dyma eiriau Amanda Blakeman, Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru wrth i ni nodi Diwrnod Rhyngwladol y Merched. Mae hwn yn ddiwrnod sy'n cael ei ddathlu'n flynyddol ar 8 Mawrth er mwyn dathlu llwyddiannau cymdeithasol, economaidd, diwylliannol a gwleidyddol merched ynghyd â dod â materion fel rhywedd, cydraddoldeb, hawliau atgenhedlu, a thrais a cham-drin yn erbyn merched i'r amlwg.
Fe wnaethon ni siarad hefo'r Prif Gwnstabl a Dawn Docx, Prif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru. Y ddwy ydy'r arweinyddion benywaidd cyntaf yn y gwasanaeth heddlu a'r gwasanaeth tân ac achub yma yng Ngogledd Cymru.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Amanda Blakeman, sy’n Llywydd Cymdeithas Merched yn yr Heddlu Prydain: “Pan wnes i ymuno hefo plismona i ddechrau, roedd yn amgylchfyd a oedd yn cael ei reoli gan ddynion. Llawer o'r pethau a oedd yn heriol oedd cydbwyso cael plant a bod yn fam ac yn swyddog heddlu. Nid oedd y ffordd roedd plismona'n cael ei wneud yn hwyluso'r angen am weithio hyblyg o gwbl na'r angen i newid patrymau sifft. Felly roedd y cyfnod hwnnw'n hynod heriol a blinedig. Ond rŵan 'da ni'n cynnig cyfle gwell i bobl allu rhoi a gwasanaethu a bod yr unigolyn pwysig maen nhw eisiau bod ym mywydau eu teuluoedd.
"Buaswn i hefyd yn dweud fod rhywfaint o'r help dwi wedi'i gael wedi dod gan gydweithwyr sy'n ddynion. Nid merched eraill o anghenraid ydy'r bobl sydd wedi fy helpu i fwyaf a'r bobl sydd wedi gwneud i mi sylweddoli fy mhotensial. Cydweithwyr sy'n ddynion sydd wedi gweld y gallu hwnnw, wedi credu ynddo fi ac wedi fy nghefnogi fi. Felly, dwi'n meddwl fod yna help gwirioneddol allan yna ar gyfer gwneud yn siŵr fod gynno ni'r cydbwysedd hwnnw mae rhywedd yn ei gyflwyno a'r gwahaniaeth sy'n dod hefo rhywedd."
Pan ofynnwyd iddi am yr hyn oedd wedi newid dros y blynyddoedd, dywedodd: Dawn Docx, Prif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Pan oeddwn i'n iau mi roeddwn i'n arfer gorfod meddwl fy mod i angen bod mor galed ag unrhyw ddyn. Roeddwn i'n meddwl mod i angen gweithio ddwywaith ag unrhyw ddyn a theirgwaith mor ymroddedig mae'n debyg. Mae wedi cymryd tipyn i mi sylweddoli a dweud y gwir nad oes rhaid i mi smalio bod yn rhywbeth nad ydw i ddim. Rhaid i fi fod yn fi a bod yn arweinydd go iawn a gwneud fy ngorau.
Aeth ymlaen i annog merched ymuno hefo’r Gwasanaeth Tân ac Achub: "Dwi meddwl os 'da chi eisiau gyrfa sy'n golygu rhywbeth go iawn, eich bod chi yno er mwyn cadw pobl yn saff, neu os 'da chi yno pan mae eich angen chi fwyaf, yna ymunwch hefo ni yn y Gwasanaethau Brys. Mae peth o'r feirniadaeth sydd wedi'i grybwyll yn ddiweddar ynghylch y diwylliant – wel, mi fedrwn ni wella'r diwylliant bob amser, ond 'da ni angen i chi fod yn rhan o'r diwylliant hwnnw ac ymuno hefo ni."
Wrth ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched, fe wnaethon ni siarad hefo sawl merch am eu cyfraniad nhw i Heddlu Gogledd Cymru.
Mae'r Prif Arolygydd Caroline Mullen-Hurst yn gweithio yn y Gwasanaethau Cymorth Gweithredol ac mae'n gyfrifol am yr Uned Troseddau Ffyrdd a'r Tîm Dronau.
"Dwi wedi bod yn Bennaeth Trefn Gyhoeddus Arian ers mis Mehefin 2023 a dwi bellach wedi rheoli sawl digwyddiad gan gynnwys gemau pêl droed a phrotestiadau o fewn ardal yr heddlu. Roedd yn fraint rheoli'r gêm ddiweddar rhwng Wrecsam a Bradford. Y Prif Uwcharolygydd Sian Beck oedd y Pennaeth Aur, roedd PC Julie Williams yn ymgynghorydd tactegol i mi ac roedd Bethan Hewitt yn Gynlluniwr Digwyddiadau.
"Ar ben rôl Pennaeth Trefn Gyhoeddus Arian, dwi'n Bennaeth Drylliau Tanio Tactegol, yn hyfforddwr Penaethiaid Drylliau Tanio Tactegol ac yn Gydlynydd Diogelwch Gwrthderfysgaeth. Dwi'n gobeithio o gael ein gweld yn cyflawni rolau o'r fath, gall fy nghydweithwyr a minnau fod yn esiampl i ferched eraill, yn enwedig mamau sy'n gweithio fel fi, y gallan nhw gyflawni'r rolau hyn hefyd."
Dywedodd PC Sarah Hughes-Jones, Tîm Plismona Cymunedol, Wrecsam:
“Fy enw i ydy PC Sarah Hughes-Jones a dwi’n gweithio hefo tîm o ferched sy’n gwneud rhan o Dîm Plismona Cymunedol Dinas Wrecsam. Dwi wedi ymrwymo ac yn hynod o falch o’r gwaith ‘da ni’n ei wneud yn y gymuned bob diwrnod. ‘Da ni’n cydweithio’n agos hefo partneriaid er mwyn lleihau trosedd, darparu sicrwydd amlygrwydd mawr ac ymrwymiad cymunedol o fewn y cymunedau ‘da ni’n ei blismona.”
Dywedodd: Lou Roberts, Cynorthwyydd Cyfathrebu ac Ymgysylltu Digidol ac Arolygydd Gwirfoddol yn rhanbarth y Dwyrain:
“Mae 2024 yn nodi fy negfed blwyddyn mewn plismona ar ôl bod mewn sawl swydd yn Heddlu Swydd Gaer a Heddlu Gogledd Cymru. Mae fy rôl hefo’r Adran Cyfathrebu Corfforaethol mor wahanol i unrhyw beth dwi wedi ei wneud o’r blaen a dwi wrth fy modd. Dwi wedi bod hefo diddordeb yn y cyfryngau a ffotograffiaeth erioed a mae fy rôl yn caniatáu hyn. Dwi’n canolbwyntio ar ymgyrchoedd megis ‘Lleihau’r Galw’, recriwtio, yr Eisteddfod Genedlaethol lle fuon ni llynedd a’r Diwrnod Agored sy’n cael ei gynnal ym mis Medi. Dwi’n hoffi mynd allan ar draws y rhanbarth er mwyn cyfarfod hefo swyddogion a staff o adrannau gwahanol a helpu hybu’r gwaith arbennig maen nhw i gyd yn ei wneud.
“Yn 2020 mi wnes i ymuno hefo’r Heddlu Gwirfoddol yn ardal De Sir y Fflint er mwyn gweld ochr weithredol plismona, sy’n hollol wahanol i’m gwaith bob dydd! Dwi wedi mwynhau gweld sut mae hi i fod ar y rheng flaen, yn helpu ein cydweithwyr gweithredol ni, helpu cymunedau a datblygu sgiliau fy hun. Llynedd, mi ges i ddyrchafiad fel Arolygydd ar gyfer rhanbarth y dwyrain. Mae’r Heddlu Gwirfoddol hefo strwythur rheng yn union fel yr Heddlu. Mae goruchwylwyr yno yn helpu’r Heddlu Gwirfoddol ar draws yr heddlu hefo hyfforddiant, datblygiad, lles a lot fawr o bethau eraill. Rhan orau’r swydd ydy gweld swyddogion yn datblygu dros amser, yn magu hyder a’r sgiliau allweddol – a gweld pobl yn ymuno hefo’r Heddlu fel swyddogion llawn amser.”
Dywedodd y Rhingyll Kate Bithell, Tîm Archwilio ac Arolygu'r Heddlu:
“Dwi wedi bod hefo Heddlu Gogledd Cymru am 17 mlynedd ac wedi gweithio mewn rolau amrywiol gan gynnwys GPLl, TCD, GCG ac wedi bod yn Swyddog Staff CCPSH.
Dwi'n Swyddog Chwilio Trwyddedig ac wedi hyfforddi mewn adnabod Dioddefwyr Trychineb. Dwi hefyd yn bencampwr lles ac yn mwynhau helpu pobl eraill drwy grŵp cerdded yr Heddlu.
Fel ysgrifennydd y Rhwydwaith Cydraddoldeb Rhywedd, dwi'n gweithio hefo cydweithwyr ac yn gweithredu fel cyfaill beirniadol i'r Heddlu ar faterion recriwtio, lles, cadw a datblygu. Mae hyn er mwyn gwneud yn siŵr ei fod yn sefydliad cyfartal a theg o ran rhywedd.
Dwi'n mwynhau plismona yng Ngogledd Cymru ac yn cyflwyno lefel uchel o wasanaeth dioddefwyr. Mae'n werth chweil rhagori ar ddisgwyliad y cyhoedd a gwybod eich bod chi wedi gwneud gwahaniaeth.
Tu allan i'r gwaith dwi wedi gwirfoddoli hefo'r Tîm Achub Mynydd (Gogledd Ddwyrain Cymru) am 18 mlynedd a newydd ymuno hefo'r Gymdeithas Cŵn Chwilio ac Achub (SARDA). Mae gen i Labrador du 18 mis o'r enw Willow dwi'n trio ei hyfforddi hi fel ci chwilio, er mae ganddi syniadau eraill!”
O Swyddogion Drylliau Tanio i Drinwyr Cŵn, Ditectifs i Nyrsys y Ddalfa, y Tîm Cyfathrebu Corfforaethol i'r Ystafell Reoli, SCCH i wirfoddolwyr – 'da ni wedi cael dros 1,680 o weithwyr benywaidd yn gwneud rolau amrywiol o fewn Heddlu Gogledd Cymru, yn gweithio ddydd a nos yn helpu ein cymunedau ni.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Blakeman: "'Da ni'n falch o gefnogi Diwrnod Rhyngwladol y Merched yma yn Heddlu Gogledd Cymru. Mae'n gyfle gwych adlewyrchu ar lwyddiannau merched o fewn plismona ac yn ehangach ar draws y sector cyhoeddus a'r sector preifat. Mae hefyd yn gyfle gwych adlewyrchu ar yr heriau sy'n dal yn cael eu hwynebu gan ferched, o fewn y gweithle a'n cymdeithas ni."
Dywedodd Tîm Gweithredol Rhwydwaith Cydraddoldeb Rhywiol Heddlu Gogledd Cymru:
“Mae 8 Mawrth yn nodi Diwrnod Rhyngwladol y Merched – mae hwn yn ddiwrnod dathlu llwyddiannau merched ar draws y byd.
“Mae’r Rhwydwaith Cydraddoldeb Rhywiol yn hynod o falch o’n merched ysbrydoledig ni ar draws Heddlu Gogledd Cymru a’n teulu plismona ehangach ni. Mae’n gwneud gwaith rhagorol ac yn darparu gwasanaeth gwych i’n cymunedau ni bob diwrnod. Fel rhwydwaith, ‘da ni’n parhau gweithio’n galed er mwyn sicrhau bod ein gweithle’n gynhwysol ac yn adlewyrchu ein poblogaeth leol, wrth helpu ein staff gwych a thalentog ni gyrraedd eu llawn potensial.”
Os 'da chi wedi'ch ysbrydoli bod yn rhan o #TîmHGC, 'da ni'n recriwtio am rolau amrywiol ar hyn o bryd, gan gynnwys Cwnstabliaid Heddlu, Swyddogion Gwirfoddol a staff. Er mwyn gwybod mwy am ein cyfleoedd gyrfaol gwych, ewch ar Gyrfaoedd | Heddlu Gogledd Cymru
Dilynwch #MerchedHGC ac #IWD2024 ac #YsbrydoliCynhwysiant ar y cyfryngau cymdeithasol am y diweddaraf.
Mae rhagor o wybodaeth o ran Diwrnod Rhyngwladol y Merched 2024 ar gael ar eu gwefan: Diwrnod Rhyngwladol y Merched 2024 (internationalwomensday.com)