Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 29 oed wedi cael ei gyhuddo ar ôl i declyn pyrotechnegol wedi'i oleuo gael ei daflu ar y cae mewn gêm i ffwrdd CPDC Wrecsam yn ddiweddar.
Digwyddodd hyn yn ystod gêm yng Nghynghrair Dau rhwng MK Dons a Wrecsam ar ddydd Mawrth, 20 Chwefror.
Cafodd Adam Edwards, o Ffordd Llys Newydd, Wrecsam ei arestio yn ystod y gem yn dilyn gweld CCC o'r digwyddiad.
Cafodd ei gyhuddo wedyn o ddwy drosedd o dan Ddeddf Digwyddiadau Chwaraeon 1985 a bydd yn ymddangos ger bron y llys yn hwyrach y mis hwn.
Dywedodd Dave Evans, Swyddog Penodol ar gyfer Pêl-droed Heddlu Gogledd Cymru: "Mae'n ymddangos fod camsyniad ymysg rhai cefnogwyr nad ydy defnyddio'r eitemau hyn yn beryglus, ond dydy hynny ddim yn wir.
"Mae pyrotechnoleg yn beryglus iawn ac yn peri perygl o anaf difrifol i'r rhai hynny sy'n eu tanio nhw a'r bobl o'u hamgylch nhw, gan gynnwys, yn yr achos hwn, y chwaraeon a oedd ar y cae.
"Ar unrhyw lefel pêl droed, mae defnyddio teclynnau tebyg yn anghyfreithlon, anghyfrifol ac yn beryglus.
"Bydd y rhai hynny sy'n troseddu felly yn derbyn Gorchmynion Gwahardd Pêl Droed a allai gyfyngu mynediad i bob gêm bêl droed."