Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae pensiynwr o Sir y Fflint wnaeth wneud i'w wraig anabl ddioddef cam-drin domestig wedi cael ei garcharu.
Ymddangosodd Geoffrey Pennington, o Lan yr Eglwys yn Llaneurgain, yn Llys y Goron yr Wyddgrug ar ddydd Gwener 8 Mawrth er mwyn cael ei ddedfrydu.
Cafodd y dyn 74 oed, a oedd wedi cyfaddef ymddwyn yn rheolaethol a gorfodol, ei garcharu am ddwy flynedd a phedwar mis.
Ffoniodd ei wraig yr heddlu yn oriau mân 18 Awst llynedd yn dilyn digwyddiad yn eu cartref, lle'r oedd wedi llwyddo recordio llais yn gyfrinachol.
Ond yn ystod yr alwad i'r heddlu, fe gymerodd Pennington y ffôn oddi ar ei wraig a thorri'r llinell ffôn.
Aeth swyddogion i'w cartref, ac ar ôl siarad efo'i wraig, fe wnaeth hi ddatgelu fod Pennington wedi ei dal i'r gwely yn gynharach y noson honno a'i dyrnu hi sawl gwaith, cyn gafael mewn cyllell at ei gwddf.
Fe wnaeth hi hefyd ddatgelu'r recordiad cyfrinachol dirdynnol o'r digwyddiad yn gynharach y noson honno, lle cafodd Pennington ei glywed yn bod yn sarhaus ar lafar.
Cafodd ei arestio yn ei gartref a'i gadw yn y ddalfa hyd nes y cafodd ei ddedfrydu ddydd Gwener.
Dywedodd y Swyddog Ymchwilio PC Simona English: "Mae rhaid cymeradwyo dewrder hynod y dioddefwr drwy gydol yr ymchwiliad hwn. Fe wnaeth ddangos cryfder diwyro tan y diwedd un.
"Heb y cyfeiriad at asiantaethau partner priodol am help, byddai llywio'r heriau oherwydd ei anableddau a'i bregusrwydd wedi bod yn hynod heriol iddi hi.
"Mae ymddygiad rheolaethol a gorfodol yn batrwm ymddygiad sy'n ceisio tynnu rhyddid yr unigolyn oddi wrthyn nhw a mynd â'i synnwyr o'u hunain.Ni ddylai neb cael eu trin mor ddiraddiol.
"Fel heddlu, 'da ni wedi ymroi mynd ati a nodi trais yn erbyn merched a chymryd bob trosedd o'r natur hon yn hynod ddifrifol.
"Os 'da chi'n dioddef ymddygiad gorfodol neu reolaethol, neu'n gwybod am rywun sydd, cysylltwch hefo ni ar-lein neu drwy ffonio 101, a threfnu siarad yn gyfrinachol hefo ymchwilwyr profiadol."