Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae cynllun Addas i Yrru newydd yn cael ei fabwysiadu yng Ngogledd Cymru fel dewis arall i erlyniad.
Drwy gydweithio hefo Heddlu Gogledd Cymru, mae Gwasanaeth Asesu Symudedd a Gyrru Cymru yn hyrwyddo’r rhaglen sydd wedi cael ei chreu er mwyn helpu modurwyr dros 70 oed yrru’n fwy diogel drwy addysg a sgwrs.
Mae’r cynllun, sydd eisoes yn llwyddiant mewn rhannau eraill o’r DU, wedi cael ei sefydlu yng Ngogledd Cymru fel prawf sydd wedi’i anelu at ddiogelu modurwyr y tu ôl i’r llyw.
Drwy weithio hefo modurwyr sydd wedi cael eu cyfeirio at y gwasanaeth, mae’r cynllun, sydd wedi’i leoli yn Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan, yn helpu pobl sydd wedi bod mewn gwrthdrawiad, fel dewis arall yn hytrach na chael eu herlyn.
Pan fydd yr unigolyn yn cyrraedd y ganolfan, fe fyddent yn derbyn cyfweliad 20 munud. Edrychir ar eu hanes gyrru ac unrhyw gyflyrau iechyd all amharu ar eu gyrru, gan gynnwys eu gallu corfforol a gwybyddol. Byddan nhw hefyd yn derbyn prawf llygaid cyn mentro allan i yrru am oddeutu 45 munud i awr. Yn ystod yr asesiad, bydd Therapydd Galwedigaethol a Hyfforddwr Gyrru Cymeradwy yn asesu eu gallu nhw. Pan fyddan nhw’n dychwelyd i’r ganolfan, byddan nhw’n cael adborth gonest cyn bydd y gwasanaeth yn rhoi eu hadroddiad i Heddlu Gogledd Cymru. Bydd yr adroddiad yma yn penderfynu os ydy’r gyrrwr yn ddiogel i barhau i yrru, ydyn nhw angen hyfforddiant ychwanegol neu ydyn nhw angen stopio gyrru yn gyfan gwbl.
Os ydy’r asesiad yn argymell bod angen stopio gyrru, bydd y canfyddiadau’n cael eu crynhoi hefo adroddiad yr heddlu a’u gyrru at y DVLA, a fydd yn gwneud y penderfyniad trwyddedu terfynol.
Dywedodd yr Arolygydd Iwan Roberts, o’r Uned Troseddau Ffyrdd: “Mae’r cynllun yma yn un o’r mentrau sydd gennym ni er mwyn lleihau’r nifer o bobl sy’n cael eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol ar y ffyrdd, ac mae’n esiampl wych o gydweithio.
“Mae’n rhaid i mi bwysleisio nid prawf gyrru ydy hwn, ond asesiad sy’n helpu unigolion barhau gyrru’n ddiogel. Bydd y cynllun yn darparu dewis hanfodol i yrwyr hŷn sydd eisiau disodli erlyniad posibl, pwyntiau neu ddirwy, hefo dewis arall cadarnhaol.”
Wrth drafod y bartneriaeth, dywedodd Gary Jones o Wasanaeth Asesu Symudedd a Gyrru Cymru: “‘Da ni’n hynod o falch o gydweithio hefo Heddlu Gogledd Cymru ar y cynllun yma er mwyn sicrhau bod pawb yn cadw’n saff ar y ffyrdd.
“Mae’r agwedd gadarnhaol hon yn asesu, addysgu a helpu pobl barhau gyrru yn hirach gan ein bod ni’n deall yr effaith y gall stopio gyrru ei gael ar fywydau unigolion. ‘Da ni yma er mwyn helpu cadarnhau addasrwydd gyrru unigolion a’u helpu nhw ddod o hyd i opsiynau eraill er mwyn iddyn nhw gadw eu hannibyniaeth os nad ydy gyrru yn addas bellach yn saff.”
Am ragor o wybodaeth am y cynllun ewch ar: Gwasanaeth Asesu Symudedd a Gyrru Cymru (wmdas.co.uk)
Nodiadau: