Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cafodd digwyddiad cymunedol ar gyfer perchnogion iard gychod ei chynnal ym Mhlas Menai yng Nghaernarfon ddydd Iau 7 Mawrth yn dilyn cynnydd mewn iardiau cychod yn cael eu targedu ar gyfer lladradau ddiwedd llynedd (2023).
Gwnaeth swyddogion o'r tîm Atal Trosedd, ynghyd â chwmnïau datrysiadau diogelwch Recipero a DeterTech, gynnal mewnbynnau am gyngor atal trosedd, diogelwch safle a defnyddio dŵr dangos er mwyn marcio eitemau gwerthfawr.
Cafodd cyfres o ladradau o iardiau cychod eu riportio ym mis Medi, mis Tachwedd a mis Rhagfyr 2023, yn aml hefo motorau allanol yn cael eu targedu. Wrth i'r gwanwyn nesáu, mae swyddogion yn ailgyhoeddi cyngor hefo'r nod o atal troseddau pellach.
Dywedodd y Rhingyll Claire Parry o Dîm Atal Heddlu Gogledd Cymru: "'Da ni'n gweithio hefo perchnogion busnes a thrigolion er mwyn cynyddu diogelwch iardiau cychod ac atal lladradau.
"Buaswn yn annog holl berchnogion cychod ac iardiau cychod gofrestru ar gyfer ein system rhybudd cymunedol lle 'da ni wedi sefydlu grŵp newydd. Mae hwn ar gyfer rhannu cyngor a chodi ymwybyddiaeth os 'da ni'n derbyn unrhyw adroddiadau am droseddau sy'n effeithio perchnogion cychod."
Gall perchnogion iardiau cychod a chychod gofrestru er mwyn derbyn rhybuddion drwy wefan Rhybudd Cymunedol Gogledd Cymru.