Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cafodd delwyr cyffuriau eu targedu yn ddiweddar fel rhan o ymgyrch heddlu cenedlaethol.
Gwnaed nifer o arestiadau, tarfwyd ar gangiau troseddol ac atafaelwyd swm sylweddol o arian, cyffuriau ac arfau.
Cynhaliwyd yr ymgyrch fel rhan o Wythnos Dwysáu Targedu Llinellau Cyffuriau a fu'n rhedeg o ddydd Llun 4 Mawrth tan ddydd Gwener, 8 Mawrth a welodd heddluoedd ar draws y wlad yn cymryd rhan mewn ymgyrch i ddal masnachwyr cyffuriau a diogelu pobl fregus gan gynnwys plant.
Llinellau Cyffuriau ydy'r term a ddefnyddir pan fydd ffonau symudol yn cael eu defnyddio yn y broses o gyflenwi cyffuriau o ddinasoedd mawr i drefi ac ardaloedd gwledig.
Mae'r llinellau yn cael eu rhedeg gan 'Reolwyr Llinellau' ac mae'r rhedwyr, pobl fregus yn aml, yn cyflenwi'r cyffuriau.
Mae'r system o ddosbarthu cyffuriau yn arwain at drais a cham-fanteisio difrifol.
Canlyniad wythnos o weithredu yng Ngogledd Cymru oedd:
Yn ystod yr wythnos, bu swyddogion yn gweithio gyda Heddlu Glannau Mersi, Heddlu Trafnidiaeth Brydeinig (BTP) ac asiantaethau partner, yn cynnwys cynghorau a chymdeithasau tai i dorri a tharfu ar gangiau troseddol.
Roedd yr ymgyrch yn cynnwys gwarantau, ymweliadau â phobl fregus a gweithgareddau ar y cyd. Digwyddodd un o'r rhain ym Mhwllheli fel rhan o brosiect Medusa Heddlu Glannau Mersi, a sefydlwyd i daclo gwerthu cyffuriau drwy ddull Llinellau Cyffuriau.
Yn dilyn yr ymgyrch ataliwyd ac archwiliwyd dyn 25 oed am ddelio cyffuriau yn dilyn ymgyrch gan heddlu mewn dillad cyffredin.
I ddechrau, canfuwyd swm bach o ganabis, ac arweiniodd hwn at chwilio eiddo ble cafodd swm mawr o ganabis, arfau peryglus, offer cyffuriau a thua £3,000 mewn arian parod eu canfod.
Arestiwyd y person 25 oed o ardal Llundain ar amheuaeth o gyflenwi cyffuriau a bod â chanabis yn ei feddiant.
Bu ymgyrch mewn dillad cyffredin yn y Rhyl ac arestiwyd dyn 21 oed o dan amheuaeth o gyflenwi cyffuriau Dosbarth A ac arestio dyn 47 oed a pherson 23 oed ar amheuaeth o yrru o dan ddylanwad cyffuriau.
Stopiwyd ac archwiliwyd pum person a'u dal gyda chyffuriau yn eu meddiant.
Daeth hyn yn dilyn gwarant mewn fflat yn Llanrwst ble atafaelwyd cyffuriau fel heroin, cocên, ecstasi, crac cocên a chanabis, a wnaeth arwain at arestio dyn 36 oed a dynes 33 oed ar amheuaeth o fwriadu cyflenwi.
Roedd swyddogion yn Wrecsam, ynghyd â'r Heddlu Trafnidiaeth yn targedu rhai a oedd yn defnyddio'r rheilffordd i gludo cyffuriau i mewn i Ogledd Cymru a theithio ar y rheilffyrdd rhwng Wrecsam, Caer a Gorllewin Mersia i darfu ar droseddwyr a rhoi cyngor a thawelu meddyliau teithwyr.
Mae swyddogion dinas Wrecsam hefyd wedi sicrhau tri gorchymyn cau mewn adeiladau oherwydd ymddygiad gwrthgymdeithasol ac wedi gwneud dau arestiad am droseddau cyffuriau tra ar batrôl beic.
Cynhaliodd swyddogion diogelwch archwiliadau mewn parciau gwyliau, gwestai a safleoedd trwyddedig ar draws pob adran o'r heddlu er mwyn rhoi cyngor ar Linellau Cyffuriau a sut i adnabod yr arwyddion.
Bu timau plismona cymdogaethau a swyddogion cydlynu ysgolion hefyd yn cynnal gweithgareddau yn ymgysylltu â dros 2,000 o bobl ifanc ar draws yr ardal dros yr wythnos.
Dywedodd y Prif Uwcharolygydd Sian Beck: “Mae llinellau cyffuriau yn gysylltiedig â'r trais mwyaf difrifol, sy'n achosi dioddefaint ac ofn yn ein cymunedau.
"Roedd yr wythnos yn llwyddiant mawr a dwi'n ddiolchgar am y gwaith caled a aeth at gynnal yr ymgyrch gan staff a swyddogion yng Ngogledd Cymru a ledled y rhanbarth.
"Mae llawer iawn o arian parod, cyffuriau ac arfau amrywiol erbyn hyn wedi cael eu tynnu oddi ar ein strydoedd. Mae hynny diolch i waith y rhai a fu'n cymryd rhan yn yr ymgyrch.
"Dim ond rhan fach o'r gwaith dan ni'n gwneud yw'r gweithgaredd diweddar hwn yn ein hymdrech i daclo gangiau Llinellau Cyffuriau sy'n cam-fanteisio ac yn recriwtio'r bobl fwyaf bregus yn ein cymunedau i storio a gwerthu cyffuriau. Maent yn cael eu dychryn, eu gorfodi, eu bygwth ac yn aml yn dioddef trais.
"Os ydy unrhyw un yn cam-drin pobl fregus ac yn achosi trallod i'n cymunedau, dylent ddisgwyl gweithredu cadarn yn eu herbyn.
"Mae gwneud Gogledd Cymru'r lle mwyaf diogel i fyw, gweithio ac ymweld yn y DU yn parhau i fod yn flaenoriaeth i ni."