Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae'r heddlu, partneriaid ac aelodau o'r gymuned wedi ymgynnull yng Nghaergybi heddiw (30 Ionawr) er mwyn lansio'r ffilm fer newydd 'Digon yw Digon'.
Mae'r ffilm, sydd wedi'i hariannu gan Strydoedd Diogelach a'i chynhyrchu gan ffilmiau Nick Straker, wedi cael ei chreu er mwyn cael ei defnyddio mewn gwersi ymddygiad gwrthgymdeithasol i blant 12-14 oed fel rhan o Raglen Heddlu Ysgolion Cymru.
Mae'r stori'n dilyn Aron, unigolyn ifanc sydd ynghylch ac yn cael ei effeithio gan ymddygiad gwrthgymdeithasol, mewn astudiaeth achos fel drama ac mae'n seiliedig ar ddigwyddiadau go iawn. Y nod ydy cynyddu ymwybyddiaeth am ganlyniadau ymddygiad gwrthgymdeithasol a'i effeithiau ar unigolion, teuluoedd a'r gymuned.
Dywedodd Anna Mitchell, Rheolwr Rhanbarthol Rhaglen Heddlu Ysgolion Cymru: "Dwi'n cyffroi wrth gyhoeddi lansio ein prosiect diweddaraf ni er mwyn ymgysylltu hefo cymunedau ifanc Cymru.
"Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cwmpasu ystod eang iawn o broblemau lleol sy'n cyffwrdd pawb yn y gymuned. Mae pobl ifanc yn aml yn meddwl mai ond hwyl maen nhw'n ei gael, ond mae'r hyn maen nhw'n ei wneud yn cael effaith fawr ac yn gallu mynd yn flêr yn hawdd.
"Yn ein sesiynau peilot ni, 'da ni wedi ffeindio fod y cymeriadau a'r digwyddiadau'n cydsynio hefo'r grŵp oedran. Maen nhw wedi bod yn awyddus rhannu eu profiadau am ymddygiad gwrthgymdeithasol. Maen nhw wedi rhoi adborth cadarnhaol i'n Swyddogion Heddlu Ysgolion. 'Da ni'n gobeithio bydd hyn yn parhau wrth i'r gwersi gael eu lansio'n ehangach ar draws Cymru.
"Digwyddodd y ffilmio a'r gwersi peilot i gyd yng Nghaergybi a gafodd ei ddewis oherwydd problemau ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y dref sydd wedi effeithio'r gymuned yn ddiweddar. Mae'r pryderon a godwyd gan drigolion wedi'n helpu ni ddatblygu'r prosiect diweddaraf 'da ni'n credu fydd yn helpu taclo problemau lleol."
Mae ysgolion rŵan yn gallu archebu mewnbynnau drwy gysylltu hefo'u Swyddog Heddlu Ysgol lleol.