Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Eleni mi fydd Heddlu Gogledd Cymru yn dathlu 50 mlynedd ac mi fyddwn yn cofnodi’r achlysur arbennig hwn gyda sawl gweithgaredd drwy gydol 2024 er mwyn arddangos ein hetifeddiaeth ac amlygu sut mae plismona wedi newid a datblygu dros y blynyddoedd.
Mae plismona wedi digwydd yng Ngogledd Cymru ers dros 160 o flynyddoedd ond cafodd Heddlu Gogledd Cymru, fel yr ydym yn ei adnabod heddiw, ei greu yn swyddogol ar y cyntaf o Ebrill 1974.
Ffurfiwyd Heddlu’r Gogledd pan ddaeth siroedd newydd Gwynedd a Chlwyd i fodolaeth, yn gwasanaethu dwy ardal newydd ei ragflaenydd sef Heddlu Gwynedd, a ffurfiwyd ar y 1af o Hydref 1967 ar ôl cyfuno Heddlu Sir y Fflint, Sir Ddinbych a Gwynedd – roedd Heddlu Gwynedd yn cynnwys Sir Gaernarfon, Ynys Môn a Sir Feirionnydd.
Meddai’r Prif Gwnstabl, Amanda Blakeman: “Mae eleni yn flwyddyn fawr wrth i ni ddathlu 50 mlynedd. Ond er fod llawer wedi newid ers 1974, mae ein gwerthoedd craidd yr un fath hyd heddiw – sef gwarchod pobl rhag niwed, dal troseddwyr a diogelu ein cymunedau.
“Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi newid mewn sawl ffordd dros y 50 mlynedd ddiwethaf, ac mae’r newidiadau wedi bod yn hanfodol er mwyn cynnal a gwella ein gwasanaeth. Mae technoleg wedi uwchraddio er mwyn trawsnewid sut yr ydym yn gweithio heddiw ac yn ein cynorthwyo i ddatrys troseddau yn gynt – gall swyddogion nawr edrych ar luniau a chael gwybodaeth drwy un botwm. Rydym wedi buddsoddi yn y dechnoleg dronau ddiweddaraf ac mae ein fflyd wedi moderneiddio gyda cheir trydanol yn cael eu cyflwyno ar y ffyrdd.
“Wrth gwrs, mae cydraddoldeb i ferched hefyd wedi newid – ni fyddai Prif Gwnstabl benywaidd wedi bodoli 50 mlynedd nôl. Nawr mae merched yn gallu gwneud unrhyw rôl heb gyfyngiad – o Swyddogion Drylliau i’r rhai sy’n gweithio hefo cŵn, o Ymchwilwyr Lleoliad Trosedd i’r ddalfa. Mae’r cyfleoedd nawr yn ddi-ddiwedd.
“Mae ein hangerdd a’n hymrwymiad er mwyn helpu diogelu ein cymunedau wedi aros yr un fath dros y 50 mlynedd ddiwethaf. Un peth allweddol yr ydym wedi gallu dibynnu arno yw cefnogaeth y cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu. Mae eu cyfraniad at daclo troseddau yn amhrisiadwy a hoffwn ddiolch i bawb am eu cefnogaeth.
“Dwi’n falch o’r heddlu fodern sydd yma heddiw, a dwi’n hynod o falch o fod yn arwain sefydliad sy’n llawn swyddogion, staff a gwirfoddolwyr ymroddgar sydd wedi ymrwymo i roi’r gwasanaeth gorau posib i’n cymunedau.
“Rydym wedi ail frandio bathodyn Heddlu Gogledd Cymru. Cafodd hyn ei wneud yn dilyn marwolaeth Brenhines Elizabeth II ac mi wnaethon ni, ynghyd â nifer o sefydliadau gwasanaeth cyhoeddus eraill, gychwyn y broses o ddiweddaru bathodyn yr Heddlu a’r brandio cysylltiedig er mwyn adlewyrchu’r brenin newydd - Brenin Charles III. Rydym yn falch o’n hunaniaeth ac yn falch o fod yn cyflwyno’r bathodyn newydd yma fel rhan o’r dathliadau 50 mlynedd.
“Dwi’n edrych ymlaen yn fawr at eich gwahodd i helpu ni ddathlu 50 mlynedd Heddlu Gogledd Cymru.”
Mi fydd yr heddlu yn dathlu ei gorffennol mewn sawl ffordd yn 2024, gydag eitemau a fydd yn mynd â chi y tu ôl i lenni adrannau, digwyddiadau a gweithgareddau – gan gynnwys Diwrnod Agored a fydd yn cael ei gynnal ym Mhencadlys yr Heddlu ym mis Medi – bydd rhagor o wybodaeth ar gael yn fuan.
Dewch i hel atgofion a darganfod mwy am y dathliadau 50 mlynedd drwy ddilyn yr hashnod #HGCyn50 ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol ac ymweld â’n gwefan
Tudalen gartref | Heddlu Gogledd Cymru (northwales.police.uk)
Hoffem greu arddangosfa yn dogfennu hanes yr heddlu. Mae diddordeb gennym glywed gan unrhyw un sydd ag atgofion megis lluniau, llyfrau, lifrai, medalau a straeon diddorol dros y 50 mlynedd ddiwethaf. Cysylltwch â Delyth Jones yn y Tîm Cyfathrebu Corfforaethol drwy Cysylltu â ni | Heddlu Gogledd Cymru (northwales.police.uk)