Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 50 oed wedi cael ei garcharu yn dilyn ymosodiad yn Nhywyn ym mis Hydref 2023.
Ymddangosodd Scott Christopher Gormon o Ludlow Street, Lerpwl yn Llys y Goron yr Wyddgrug heddiw, 26 Ionawr, wedi ei gyhuddo o ymosod, tagu bwriadol ac achosi affráe
Galwyd swyddogion i Barc Gwyliau Tŷ Mawr yn Nhywyn ar nos Wener, Hydref 27 2023, yn dilyn adroddiadau o ymosodiad yn y parc carafanau.
Yn y lleoliad, tynnodd Gormon gareiau o'i esgidiau a'u clymu o gwmpas gwddf y dioddefwr o'r tu ôl, gan achosi iddo ddisgyn i'r llawr. Yna, curodd Gormon y dioddefwr dro ar ôl tro yn ei gorff a'i wyneb hyd nes i'r swyddogion diogelwch ymyrryd.
Derbyniodd ddedfryd o 18 mis o garchar.
Dywedodd Rhingyll Kiera Williams : "Nid yw trais o unrhyw fath yn dderbyniol yn ein cymunedau.
"Mae'r ymosodiad hwn ar berson nad oedd Gormon yn ei adnabod yn un erchyll ac yn brofiad brawychus iddo tra ei fod ar wyliau yn yr ardal a gobeithio y bydd y ddedfryd heddiw yn sicrhau pawb bod cyfiawnder wedi digwydd."
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi ymroi i daclo troseddau treisgar, a byddwn yn rhoi blaenoriaeth i ddigwyddiadau fel hyn.