Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae gan fwy o bobl hyder yn Heddlu Gogledd Cymru nag unrhyw heddlu arall yng Nghymru a Lloegr.
Mae arolwg wedi dangos fod gan 77% o bobl yng Ngogledd Cymru hyder yn y modd mae'r rhanbarth yn cael ei phlismona. Mae'r heddlu felly ar frig Arolwg Trosedd Cymru a Lloegr.
Gwnaeth yr heddlu hefyd gyflawni'r ail ganran uchaf yn genedlaethol ar gyfer y rhai hynny gytunodd y byddai'r heddlu'n eu trin nhw â pharch (86.5%).
Mae hyn yn ategu data a ddangosodd fod yr heddlu'n dal hefo'r ail ffigwr isaf yn genedlaethol am gyfraddau trosedd cymdogaethau am bob 1000 o'r boblogaeth.
Mae cyfraddau byrgleriaethau preswyl i lawr 6% o un flwyddyn i'r llall. Mae achosion cofnodedig o droseddau cerbydau wedi gostwng hefyd 4.6% o un flwyddyn i'r llall. Mae amserlenni ymchwiliadau wedi gostwng 39.6% ar gyfartaledd hefyd.
Gan wneud sylwadau ar y ffigyrau diweddaraf, dywedodd y Prif Gwnstabl Amanda Blakeman: "Mae'r canlyniadau hyn yn dystiolaeth o'r gwaith dyrys mae fy swyddogion a'm staff cymorth i'n ei wneud bob dydd er mwyn cadw ein cymunedau'n saff.
"Mae gynnon ni amcanion clir fel heddlu o fod yn amlwg ac ymgysylltu hefo'n cymunedau; gan ganolbwyntio ar drechu, atal a lleihau trosedd; a darparu gwasanaeth gwych i'r bobl hynny sy'n dioddef trosedd.
Fodd bynnag, dyda ni ddim yn hunanfodlon. 'Da ni'n gwybod fod llawer mwy i'w wneud. Fe wnawn ni barhau gweithio'n ddiwyro tuag at wneud gogledd Cymru'r lle saffaf yn y DU i fyw, gweithio ac ymweld."
Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Dwi'n falch iawn o weld fod gan Heddlu Gogledd Cymru'r amcangyfrif uchaf o hyder y cyhoedd yng Nghymru a Lloegr. Dwi'n falch hefyd ei fod yn ail yn y niferoedd o bobl sy'n cytuno y byddai'r Heddlu'n eu trin â pharch.
"Mae'r rhain yn ffigyrau hynod o ystyried y nifer o heddluoedd sy'n gwasanaethu'r cyhoedd ar draws y wlad. Fodd bynnag, fel rhan o'm rôl fel Comisiynydd Heddlu a Throsedd, dwi'n gweld yr ystadegau hyn ar waith bob dydd wrth i mi deithio ar hyd a lled Gogledd Cymru yn cyfarfod a gwrando ar drigolion a'r swyddogion heddlu a staff sy'n eu gwasanaethu nhw. Dwi bob amser yn cael fy nharo gan ymroddiad y swyddogion a chan y croeso cynnes maen nhw'n ei dderbyn ymysg pobl leol.
"Mae plismona cymdogaethau yn nodwedd o Heddlu Gogledd Cymru ac yn rhan allweddol o'm Cynllun Heddlu a Throsedd a'm gweledigaeth ar gyfer plismona yn y rhanbarth. Mae'n canolbwyntio ar helpu dioddefwyr a chymunedau, system cyfiawnder troseddol deg ac effeithiol a chyflawni cymdogaethau saffach. Mi wnâi barhau gweithio hefo'r Prif Gwnstabl a'r Uwch Swyddogion er mwyn gwneud yn siŵr fod hyder y cyhoedd yn mynd o nerth i nerth."
*Data wedi'i gymryd o Arolwg Canfyddiad Arolwg Trosedd Cymru a Lloegr 12 mis hyd at fis Mehefin 2023, a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2023. Data hefyd o Arolwg Trosedd Cymru a Lloegr 12 mis hyd at fis Rhagfyr 2023. Cyhoeddwyd y ddau arolwg gan y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol.