Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
CodCadarn ydy digwyddiad hacathon Gwarchod ac Atal Seiber cyntaf y DU a fydd yn rhedeg ar ddydd Gwener 16th Chwefror ym Mhrifysgol Wrecsam.
Bydd Tîm Troseddau Seiber Heddlu Gogledd Cymru, gyda chymorth Prifysgol Wrecsam a Cyber Wales yn gosod her i gyfranogwyr greu datrysiadau bywyd go iawn i droseddau seiber.
Bydd y digwyddiad am ddim hwn yn gweld heddluoedd yn ymuno hefo gweithwyr diwydiant proffesiynol, myfyrwyr, selogion diogelwch seiber ac unigolion angerddol er mwyn cydweithredu ar ymdriniaethau er mwyn helpu ysbrydoli aelodau o'r cyhoedd a busnesau ynghylch sut i gadw'n saff ar-lein.
Unwaith mae syniadau wedi cael eu datblygu, bydd unigolion a thimau hefyd yn cael cyfle i ddangos eu gwaith i banel o arbenigwyr a wnaiff feirniadu'r datrysiadau a gynigir ar y diwrnod.
Dywedodd PC Dewi Owen o'r Tîm Troseddau Seiber: "Bydd pawb yn 'nabod rhywun sydd wedi cael eu heffeithio gan dwyll ar-lein, troseddau seiber, neu gamddefnyddio cyfrifiadur. Mae'r Hacathon CodCadarn yn anelu dod â phobl at ei gilydd er mwyn datblygu syniadau arloesol a chyffrous a wnaiff wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Bydd yn caniatáu i ni warchod cymunedau a busnesau ar draws Gogledd Cymru rhag y bygythiadau seiber diweddaraf.
"'Da ni'n falch o gael y cyfle o gael y cyfle i weithio hefo grŵp amrywiol o unigolion fel rhan o'r digwyddiad cyntaf o'r math hwn yn y DU, a fydd wedi ymroi i ddatblygu ffyrdd arloesol o ddefnyddio offer newydd yn ein hymdrech er mwyn lleihau ac atal troseddau seiber."
"'Da ni'n edrych ymlaen at weld myfyrwyr, arbenigwyr diwydiant, yr heddlu a selogion eraill i gyd yn cydweithio er mwyn datblygu ffyrdd o gadw pobl eraill yn saff mewn darlun diogelwch seiber sy'n esblygu o hyd. Mae croeso i bawb. "
"Datblygir a defnyddir y syniadau gorau ar y diwrnod gan dîm Troseddau Seiber HGC. Bydd tystysgrifau'n cael eu rhoi i bawb sy'n cymryd rhan ynghyd â gwobrau bach am y syniadau gorau.
Ewch ar ein tudalen Eventbrite er mwyn dysgu mwy am y digwyddiad ac archebu eich lle. 'Da ni'n gobeithio eich gweld chi yno.