Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Carcharwyd dyn 37 oed a chafodd Orchymyn Ymddygiad Cymunedol yn dilyn ymosodiad ar 27 Ionawr.
Ymddangosodd Jamie Andrew Cowell o Fangor yn Llys Ynadon Llandudno ddoe, 29 Ionawr wedi ei gyhuddo o ymosod a bygwth.
Yn fuan wedi 2.30am ar 27 Ionawr, roedd Cowell yn chwarae cerddoriaeth yn uchel y tu allan i gyfeiriad ym Mangor. Daeth un o’r trigolion allan i ofyn iddo droi’r gerddoriaeth i lawr a mi wnaeth Cowell ei wthio, gan achosi i’r dyn ddisgyn.
Dilynodd Cowell y dyn i’w dŷ gan ei fygwth. Gwaeddodd ar y dioddefwr gan ddweud ei fod yn gwybod ble roedd yn byw ac y byddai’n llosgi ei dŷ i lawr.
Cafodd ddedfryd o 16 wythnos yn ogystal â Gorchymyn Ymddygiad Cymunedol am dair blynedd.
Fel rhan o’r Gorchymyn Ymddygiad Cymunedol rhaid i Cowell beidio â:
Dywedodd Rhingyll Andrew Davies: “Mae Cowell yn droseddwr cyson sy’n codi ofn yn y gymuned.
“Ni ddylai unrhyw un gael eu bygwth yn y cartref ac rwyf yn cymeradwyo y dioddefwr am eu dewrder yn ystod y digwyddiad hwn.
“Bydd ein swyddogion yn parhau i ddiogelu y rhai sy’n cael eu dychryn gan ymddygiad anaddas, ac rydym yn gobeithio bod trigolion Bangor yn dawelach eu meddyliau wedi’r ddedfryd a’r gorchymyn llys.”
Cyhoeddir Gorchmynion Ymddygiad Troseddol gan lys troseddol i fynd i’r afael ag unigolion sy’n troseddu’n barhaus. Gall torri’r gorchymyn ymddygiad troseddol arwain at garchar.