Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae lleidr siop o Wrecsam wedi cael eu carcharu yn dilyn tri achos o ddwyn yn y ddinas.
Ymddangosodd Adam Roberts o Hampson Avenue, Wrecsam yn Llys Ynadon Yr Wyddgrug heddiw, dydd Iau, 25 Ebrill, lle gwnaeth gyfaddef dri chyhuddiad o ddwyn o siop.
Cafodd y dyn 37 oed ei arestio a'i gyhuddo ddoe (24 Ebrill) am y troseddau.
Cafodd ei ddedfrydu i wyth wythnos yn y carchar am ddwyn o siopau a thorri gorchymyn cymunedol.
Adroddwyd am y digwyddiad cyntaf ar 4 Mawrth yn y Co-op ar Prince Charles Road, Wrecsam lle gwnaeth Roberts ddwyn gwerth £40 o eitemau a siocled yn bennaf oedd hynny.
Yna aeth mewn i Tesco ar Ffordd y Cilgant ar 13 Ebrill a dwyn tri bocs o glustffonau a diaroglyddion, gwerth £124.
Dridiau yn ddiweddarach ar 16 Ebrill, dychwelodd i'r Co-op ar Prince Charles Road a chuddio pedair jar o goffi yn ei siaced. Pan wnaeth staff ei herio fo, fe roddodd un ohonyn nhw yn ôl, ond cymerodd y tri arall heb dalu.
Dywedodd Heidi Stokes, Arolygydd Dinas Wrecsam: "Dwi'n gobeithio y bydd dedfryd heddiw yn anfon neges glir y bydd y rhai hynny sy'n troseddu yn y ddinas yn cael eu dal, a bydd camau cadarn yn cael eu cymryd yn eu herbyn.
"Nid ydy dwyn o siopau yn drosedd heb ddioddefwyr. Fe wnawn ni barhau ymlid y rhai hynny sy'n achosi'r galw mwyaf yn ein cymuned ni."