Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae swyddogion wedi bod yn gweithio efo adran Safonau Masnach Cyngor Sir Ynys Môn, er mwyn ail-ymweld â chartrefi mewn ardaloedd ‘dim galwyr digroeso’, efo’r nod o daclo ac atal byrgleriaethau tynnu sylw a masnachwyr twyllodrus ledled Ynys Môn.
Adnabyddir ardaloedd ’dim galwyr digroeso’ yn hawdd, drwy sticeri ar bolion lampiau yn yr ardal, yn ogystal â sticeri yn ffenestri cartrefi’r ardal. Bydd swyddogion yn rhoi sticeri ffenestri a llythyrau yn cynnwys cyngor i drigolion.
Dywedodd SCCH Iona Beckmann: “Mae trosedd carreg drws yn medru cael effaith fawr ar ddioddefwyr, a dyna pam ‘da ni’n ymweld ag ardaloedd ‘da ni’n gwybod bod galwyr digroeso wedi bod yn eu targedu.
“’Da ni’n gwneud hyn er mwyn addysgu’r trigolion am beryglon masnachwyr twyllodrus.
“Os ydy rhywun yn cnocio ar eich drws yn gofyn am waith, ‘da ni’n eich cynghori i’w gwrthod a pheidio eu gadael i fewn i’ch cartref.
“’Da ni’n parhau gweithio’n agos efo’r adran Safonau Masnach, er mwyn diogelu trigolion, a allai weithiau fod yn bobl mewn oed neu’n fregus, er mwyn atal achosion pellach rhag ddigwydd.”
Mae’r term Masnachwyr Twyllodrus yn cyfeirio at y rhai sy’n mynnu gormod o dâl am wasanaethau neu gynnyrch anfoddhaol. Gallai hyn gynnwys mynnu tâl am waith dianghenraid, neu’n peidio gorffen gwaith, cyn ymddwyn yn fygythiol er mwyn ceisio gorfodi trigolion dalu ychwaneg o arian.
Os oes masnachwyr digroeso yn ymweld â chi ar ôl rhoi sticeri yn eich ffenest neu’ch drws, cysylltwch â’r adran Safonau Masnach, gyda manylion y masnachwr, at [email protected] neu ffonio 01248 752840.