Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn cyflwyno tacteg partneriaeth amlasiantaethol o'r enw Hel, Dal, Cryfhau, a gafodd ei ddylunio gan y Swyddfa Gartref er mwyn adfywio ardaloedd yr effeithir arnynt fwyaf gan droseddau difrifol a threfnedig.
Mae'r fenter tri cham, a elwir yn lleol yn RENEW, yn defnyddio cyfuniad o ymgyrchoedd heddlu amlwg iawn wedi'u targedu a thactegau plismona cudd ochr yn ochr â gweithgarwch a help gan bartneriaid. Ceir hefyd fewnbwn gan breswylwyr i warchod ein cymunedau ni ac atal grwpiau troseddau trefnedig rhag gweithredu.
Beth?
Mae'r strategaeth yn gweld yr heddlu'n mynd ar drywydd aelodau gangiau gan ddefnyddio'r holl rymoedd a thactegau sydd ar gael. 'Da ni'n hel ardal. 'Da ni'n parhau gweithredu er mwyn dal y lleoliad, fel nad ydy gang arall yn gallu cymryd rheolaeth yn y cyfamser. Yna, byddwn ni’n cryfhau'r gymuned yn ardal lle byddai pobl yn hoffi byw, gweithio ac ymweld ac yn ardal llai agored o gael ei defnyddio gan grwpiau trosedd trefnedig a llinellau cyffuriau.
Ble?
Mae ADNEWYDDU yn digwydd yng Ngorllewin y Rhyl.
Pryd?
Mae hwn yn brosiect tymor hir a bydd y gwaith yn barhaus.
Pam?
Bydd gweithredu'r dull holistaidd hwn yn ei gwneud hi'n anoddach i grwpiau troseddau trefnedig weithredu. Bydd yn aflonyddu ar eu gweithgarwch a'u hincwm, a bydd yn helpu gwarchod y rhai hynny sy'n byw, ymweld ac yn gweithio yng Ngorllewin y Rhyl. Bydd hefyd yn helpu'r bobl hynny sy'n debygol o gael eu camddefnyddio gan gangiau. Drwy gydweithio a gwrando ar anghenion trigolion, bydd ADNEWYDDU yn adfywio ardaloedd sydd wedi cael eu difetha gan droseddau difrifol a threfnedig. Bydd yn caniatáu trigolion adfer eu cymunedau, creu cadernid tymor hir yn erbyn grwpiau trosedd trefnedig a helpu atal bygythiadau i ddiogelwch yn y dyfodol.
Sut?
Bydd yr holl bartneriaid yn gweithio'n agos er mwyn rhannu gwybodaeth a nodi llecynnau sydd angen eu hadfywio yn ogystal â gweithgarwch penodol er mwyn cael gwared ac aflonyddu grwpiau troseddau trefnedig. Ar ben hyn, bydd partneriaid yn rhoi cyngor a gwasanaethau, i'r rhai hynny sydd angen help a all fod yn cael trafferth cael mynediad at help. Bydd ardaloedd o dan sylw yn cynnwys: y mannau lle mae pobl yn byw, yn gweithio ac yn hamddena cyfleoedd i bobl ifanc, help hefo cyflogaeth, help i gael mynediad at gyllid, problemau iechyd, atal trosedd a chyngor diogelwch.
Bydd digwyddiadau hefyd yn cael eu cynnal hefo grwpiau cymunedol a fydd yn rhoi cyfleoedd am fewnbwn gan drigolion er mwyn penderfynu sut all partneriaid helpu cymunedau orau.
Pwy?
Mae partneriaid sy'n gysylltiedig hefo ADNEWYDDU yn cynnwys Heddlu Gogledd Cymru, Trwyddedu Cyngor Sir Ddinbych, Safonau Masnach, Gwasanaethau Plant a'r Digartref, Tân ac Achub Gogledd Cymru, Cymdeithasau Tai, Camddefnyddio Sylweddau BIPBC, Gwasanaeth Prawf Cymru, busnesau lleol, grwpiau cymunedol a thrigolion.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Amanda Blakeman:
"Mae cychwyn menter Hel, Dal a Chryfhau yn nodi carreg filltir bwysig yn ymdrechion Heddlu Gogledd Cymru wrth daclo troseddau trefnedig a chreu cymunedau cadarn. Nod y bartneriaeth hon ydy aflonyddu'r rhwydweithiau troseddol sy'n tra-arglwyddiaethu cymunedau a peri gofid."
"'Da ni'n gwybod fod troseddau trefnedig yn peri risg sylweddol i'n cymunedau gan ei fod angen ymateb unedig gennym ni, ein partneriaid, a'n cymunedau er mwyn ei daclo. Dwi'n ffyddiog ynghylch yr hyn allwn ni ei wneud hefo'n gilydd. Dwi'n gwybod ein bod ni'n cael cefnogaeth lawn gan bawb sy'n gysylltiedig wrth adfer balchder yn ôl i ward Gorllewin y Rhyl."
Dywedodd Graham Boase, Prif Weithredwr Cyngor Sir Ddinbych: "Nid oes lle i drosedd yn ein cymunedau ni. 'Da ni bob amser wedi ymroi cydweithredu hefo'n partneriaid diogelwch cymunedol a chymunedau lleol er mwyn delio hefo'r materion sy'n bwysig iddyn nhw.
Mae 'Adnewyddu'r Rhyl', sy'n canolbwyntio ar Orllewin y Rhyl, yn un o nifer o ffyrdd 'da ni'n cydweithredu hefo'n partneriaid a'r gymuned leol er mwyn taclo'r rhai hynny sydd ynghlwm mewn troseddoldeb a wnaiff helpu creu cymuned gryfach a gwytnach. Mae hyn yn rhan o'r ymdriniaeth gyffredinol tuag at adfywio'r Rhyl ac mae'n helpu themâu ac addewidion ehangach ein Cynllun Corfforaethol gan gynnwys y Cyngor yn gweithio'n agosach hefo'i gymunedau.
"Dwi'n falch fydd swyddogion ledled y Cyngor yn cymryd rhan yn y prosiect cydweithredol hwn.
"Fel Cyngor, dwi wedi ymroi cydweithredu hefo partneriaid a'n cymunedau ni er mwyn gwella bywydau ein trigolion i gyd."
Am fwy o wybodaeth: dilynwch @NWPDenbighshireCoastal ar Facebook ac X.
Dylai unrhyw un sydd hefo gwybodaeth am drosedd yn eu hardal nhw gysylltu hefo Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu Crimestoppers, yn ddienw, ar 0800 555 111. Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob amser.
#AdnewydduRhyl