Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
"Mae stelcio'n drosedd ddifrifol sy'n achosi niwed seicolegol tymor hir i ddioddefwyr. Mae'n hynod bwysig ein bod ni'n darparu'r gwasanaeth gorau i ddioddefwyr."
Dyma eiriau cydlynydd stelcio newydd Heddlu Gogledd Cymru, Kerry Sidney.
Ei rôl hi ydy gwella'r ffordd y mae'r heddlu'n cydnabod ac yn ymateb i adroddiadau o stelcio.
Mae Kerry wedi gweithio yn uned gwarchod pobl fregus yr heddlu ers pum mlynedd. Bydd hi rŵan yn defnyddio ei phrofiadau er mwyn helpu swyddogion heddlu gydnabod stelcio a diogelu dioddefwyr yn well.
Bydd hyn yn cynnwys eu helpu nhw hefo ceisiadau Gorchmynion Gwarchod Stelcio (SPO). Mae hwn yn orchymyn sifil hefo'r nod o warchod dioddefwyr ac atal troseddwyr rhag stelcio dioddefwr ymhellach.
Dywedodd Kerry: "Fel heddlu, 'da ni eisoes wedi ymrwymo dileu trais yn erbyn merched a genethod. Yn y rôl hon, dwi'n canolbwyntio ar wella'r ffordd 'da ni'n cydnabod ac yn ymateb i stelcio.
"Mae stelcio yn batrwm ymddygiad sefydlog ac obsesiynol sy'n ymwthiol ac yn achosi ofn trais neu ennyn braw a gofid yn y dioddefwr.
"Mae stelcio'n ddiangen, ailadroddus, ac mae bob amser yn cael ei gyflawni gan un unigolyn tuag at un arall.
"'Da ni'n deall y gallai fod yn anodd i ddioddefwr gymryd y cam cyntaf a rhoi gwybod i'r heddlu am eu pryderon. Fodd bynnag, 'da ni bob amser yn sicrhau bod pob dioddefwr yn cael eu deall, eu trin hefo tosturi, eu bod yn cael eu gwarchod, eu diogelu a'u helpu drwy gydol y broses cyfiawnder troseddol.
"'Da ni eisiau sicrhau bod gan swyddogion yr offer cywir er mwyn helpu dioddefwyr yn llawn drwy gydol yr holl broses, ymchwilio i adroddiadau yn drylwyr a gweithio hefo partneriaid cyfiawnder troseddol tuag at erlyniad."
Bydd trinwyr galwadau yn ystafell reoli'r heddlu hefyd yn derbyn hyfforddiant pwrpasol.
Fe ychwanegodd: "Yn aml, ein trinwyr galwadau ydy'r pwynt cyswllt cyntaf i rywun sydd eisiau rhoi gwybod am eu pryderon."
"Mae'n hanfodol eu bod wedi'u hyfforddi'n llawn yn y maes hwn ac yn cydnabod y gwahaniaethau allweddol rhwng achosion o aflonyddu a stelcio."
Ceir pedair nodwedd hefo stelcio: Sefydlog, Obsesiynol, Digroeso, Mynych.
Dywedodd Kerry: "Fy mhrif flaenoriaeth i ydy rhoi'r hyder i ddioddefwyr ddod ymlaen a dweud wrthym ni'r hyn sy'n digwydd. 'Da ni wedyn angen gwrando, deall yr effaith ar ddioddefwyr, ymchwilio bob adroddiad yn drwyadl, lle cyflwynir tystiolaeth a gwneir cyhuddiadau, a hynny er mwyn cydweithredu hefo'n partneriaid cyfiawnder troseddol yn yr erlyniad."
Bydd hefyd yn cydweithredu'n agos hefo asiantaethau partner er mwyn helpu dioddefwyr a rheoli troseddwyr.
Fe ychwanegodd: "Does na'm disgrifiad arferol o stelciwr. Gall fod yn unrhyw un. Yn aml, gall stelcio ddwysau ar ôl i berthynas ddod i ben.
"Os nad ydy'r ymddygiadau hyn yn cael eu canfod, gallan nhw gael canlyniadau difrifol.
"Dyna pam ei bod mor bwysig i ni gydweithio hefo asiantaethau partner er mwyn adnabod arwyddion cynnar stelcio a rheoli ymddygiad troseddwyr hysbys ac atal unrhyw ddigwyddiadau pellach."
Dywedodd y Prif Gwnstabl Amanda Blakeman, sydd hefyd yn Arweinydd Trais yn erbyn Merched a Genethod dros Gymru: "'Da ni'n un o'r heddluoedd cyntaf yn y wlad i gyflwyno'r cydlynydd stelcio ymroddedig newydd, a fydd yn trawsnewid y gwasanaeth gallwn ni ei gynnig i ddioddefwyr.
"Mae stelcio'n drosedd ddifrifol a all gael effaith ddinistriol ar fywydau dioddefwyr a'u teuluoedd.
"Dwi wedi gwneud taclo trais yn erbyn merched a genethod yn flaenoriaeth i'r heddlu, ac mae stelcio'n drosedd sy'n mynd at wraidd hyn, gan gael gwared ar eu teimlad o ddiogelwch.
"Byddwn yn parhau ymdrechu sicrhau bod pob adroddiad yn cael ei ymchwilio'n llawn. Dwi'n annog unrhyw un sy'n profi stelcio ddod ymlaen, naill ai atom ni neu at ein hasiantaethau partner, a byddwn yn eich helpu chi."
Yn ôl ymchwil gan Ymddiriedolaeth Suzy Lamplugh, mae un o bob pump o fenywod ac un o bob 10 dyn yn genedlaethol yn profi stelcio.
Ychwanegodd Kerry: "Fy neges i unrhyw un sy'n meddwl eu bod yn profi stelcio ydy nad ydych chi ar eich pen eich hun. 'Da ni'n eich credu chi. Chwiliwch am arwyddion a gwrandewch ar eich greddf os nad ydy rhywbeth yn iawn."
Cliciwch yma Beth yw stelcio ac aflonyddu? | Heddlu Gogledd Cymru (northwales.police.uk) am ragor o wybodaeth a help ynghylch stelcio neu cysylltwch â'r Llinell Gymorth Stelcio Genedlaethol ar 0808 8020300.