Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn a wneth ymosod ar ei bartner yn dilyn ffrae dros arian wedi cael ei garcharu.
Cyfaddefodd Tecwyn Woodward, o Gwrt Pinwydd, Coed Llai ei fod wedi ymosod gan achosi niwed corfforol a thagu bwriadol yn dilyn digwyddiad fis Tachwedd 2022.
Ymddangosodd y dyn 55 oed yn Llys y Goron yr Wyddgrug ar ddydd Mawrth, 2 Ebrill ble cafodd ei ddedfrydu i 25 mis yn y carchar.
Digwyddodd yr ymosodiad yn y cartref ar ôl i bartner Woodward ei holi faint oedd wedi gwario yn y siop.
Yn dilyn cweryl, lluchiodd hi i'r llawr, cyn ei tharo ar ei hwyneb gyda'i ben a'i gadael gyda llygad ddu a'i gwefus yn gwaedu.
Pan adawodd, dihangodd ei bartner o'u cartref.
Dywedodd wrth yr heddlu nad hwn oedd yr ymosodiad cyntaf ac roedd wedi dioddef nifer o ymosodiadau yn ystod eu perthynas.
Arestiwyd Woodward, a oedd yn eisiau am ymosod, ar Ddydd Calan y flwyddyn diwethaf.
Dywedodd y Swyddog Ymchwilio PC Sarah Pawley: "Hoffwn gymeradwyo dewrder y dioddefwr drwy gydol yr ymchwiliad hwn.
“Mae'r canlyniad heddiw yn dangos na fydd trais yn cael ei oddef a byddwn yn gweithio yn ddyfal i ddod â throseddwyr o flaen eu gwell.
“Dylai unrhyw un sy'n dioddef cam-drin domestig gysylltu â'r heddlu neu asiantaeth a fydd yn eu cefnogi.
"Fe wnawn wrando arnoch chi ac ymchwilio yn drylwyr i bob adroddiad."
Ymgyrch Unite yw ein hymateb i drais yn erbyn merched a genethod. Ceir mwy o wybodaeth yma - Ymgyrch Unite | Heddlu Gogledd Cymru