Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Heddiw, mae dyn 22 oed wedi cael ei garcharu ar ôl gwarchae 15 awr ym Mlaenau Ffestiniog.
Fe wnaeth Cameron Lloyd Jennings-Williams o Hafan Deg, Tanygrisiau, gadw dynes yn wystl ac fe wnaeth nifer o wasanaethau brys ymateb yn ystod y digwyddiad ym mis Awst llynedd.
Fe wnaeth ymddangos yn Llys y Goron Caernarfon heddiw (dydd Iau, 11 Ebrill) i'w ddedfrydu yn dilyn cyfaddef bygwth unigolyn hefo arf ymosodol mewn man preifat, meddu arf ymosodol mewn man cyhoeddus ac achosi niwsans cyhoeddus yn fwriadol.
Fe'i dedfrydwyd i 2 flynedd yn y carchar.
Ar 16 Awst, fe wnaeth Heddlu Gogledd Cymru dderbyn galwad 999 toc ar ôl hanner nos yn riportio fod Jennings-Williams wedi cael ei weld hefo "offeryn torri gwair mawr" yn ei feddiant, wedi'i guddio lawr ei drowsus.
Riportiwyd ei fod wedi bygwth trais tuag at ddynes sawl gwaith.
Pan aeth swyddogion i'w gartref, fe wnaethant weld ei fod y tu mewn ac yn gythryblus ac hefo cyllell yn ei feddiant.
Roedd wedi bygwth niweidio ei hun a'i gymar, a oedd hefyd tu mewn i'w dŷ.
Wedi gwrthod gadael iddi adael, cafwyd cyfyngiant arfog am 15 awr o amgylch ei gartref, a oedd yn cynnwys swyddogion arbenigol gan gynnwys drylliau tanio, trafodwyr, a'r uned dronau, ynghyd â chydweithwyr o'r gwasanaeth tân a'r gwasanaeth ambiwlans.
Yn ystod y digwyddiad, cafodd eiddo cyfagos eu gwagio ar ôl i Jennings-Williams fygwth rhoi ei dŷ ar dân os oedd swyddogion yn mynd mewn i'w eiddo.
Wedi cau ei hun a'i gymar tu mewn, fe wnaeth hefyd ddadlennu ei fod hefo sawl potel Molotov ddifyfyr, a oedd yn bygwth eu taflu at yr heddlu.
Yn dilyn trafod, yn y diwedd fe wnaeth adael i'w gymar adael cyn iddo gael ei arestio'n fuan wedyn.
Cafodd sawl arf gan gynnwys dwy bladur, dau fwrthwl a chyllell eu hatafaelu o'i gartref.
Dywedodd yr Uwcharolygydd Gethin Jones: "Roedd effaith y digwyddiad hwn ar y gymuned a'r gwasanaethau brys yn hynod sylweddol a gallai fod wedi cael ei atal.
"Rhaid ei fod wedi bod yn frawychus nid yn unig i'r dioddefwr, ond i'r gymuned a'r trigolion a oedd yn methu cael mynediad i'w cartrefi am gyfnod hir – roedd rhai hefo plant ifanc.
"Yn ystod y digwyddiad 15 awr, roedd swyddogion hefyd yn methu darparu gwasanaeth yn rhywle arall.
"Dwi'n croesawu dedfryd heddiw a dwi'n gobeithio ei fod yn anfon neges glir fod camau cadarn yn cael eu cymryd yn erbyn y rhai hynny sy'n achosi niwsans cyhoeddus yn fwriadol."