Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Damwain awyren yn Ahmedabad
Mae'r DU yn gweithio gydag awdurdodau lleol yn India i sefydlu'r ffeithiau ar frys a rhoi cefnogaeth i'r rhai dan sylw.
Mae dau ddyn a gynhaliodd ymosodiad brawychus a digymell ar ddyn bregus yn ei gartref ei hun wedi cael eu carcharu am gyfanswm o fwy na chwe blynedd.
Cafodd Gareth Hughes, 43, o Faes yr Haf, Caergybi a'i frawd, Peter Hughes, 35, o Cleveland Crescent, Caergybi ill dau eu dedfrydu yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Mawrth, 16 Ebrill.
Cafodd y ddau, a gyfaddefodd i gyhuddiad o achosi niwed corfforol difrifol anfwriadol, ddedfryd o dair blynedd a thri mis o garchar.
Bu'r digwyddiad yng Nghaergybi ar 4 Tachwedd y llynedd. Gwthiodd y brodyr eu ffordd i mewn i gartref y dioddefwr ar ôl iddo agor y drws iddyn nhw ar ôl meddwl mai ei ffrind oedd yn ymweld ag o.
Unwaith roedden nhw i mewn, fe ddechreuon nhw ei ddychryn ynghylch honiadau ffug o ymosodiad wedi'i gynllunio ar un o'r brodyr, cyn ymosod arno'n dreisgar wrth iddo ofni am ei fywyd.
Cafodd y dioddefwr ei ddyrnu a'i sathru, cyn i deledu gael ei daflu ato, gan ei adael gyda sawl toriad i'w wyneb, asennau wedi torri, a niwed i'w olwg.
Daeth yr ymosodiad i ben pan ddywedodd y dioddefwr wrth y ddau fod yr honiadau yn ffug.
Unwaith i'r brodyr adael, ffoniodd y dioddefwr yr heddlu am help, ac fe gafodd ei gludo i'r ysbyty oherwydd maint ei anafiadau.
Cafodd y ddau eu cadw yn y ddalfa nes eu dedfrydu a rhoddwyd gorchymyn atal 10 mlynedd iddynt warchod y dioddefwr.
Dywedodd y Swyddog Ymchwilio, y Ditectif Gwnstabl Kathleen Barrell: "Roedd hwn yn ymosodiad erchyll a digymell yn erbyn dyn bregus yn ei gartref ei hun.
"Mae'r effaith y mae wedi'i chael ar y dioddefwr yn llawer mwy na'r anafiadau corfforol a wnaeth eu dioddef. Mae ei iechyd meddwl wedi dioddef o ganlyniad.
"Dwi'n croesawu'r ddedfryd ac yn gobeithio y bydd yn anfon neges glir y byddwn yn mynd ar drywydd y rhai hynny sy'n achosi'r niwed mwyaf yn ein cymuned. Ni fydd troseddau treisgar yn cael eu goddef, a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu er mwyn sicrhau bod preswylwyr yn teimlo'n ddiogel yn eu cymunedau."