Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Dros y gwyliau Pasg, mae Tîm Plismona’r Gymdogaeth wedi bod yn gweithio efo Gwasanaethau Ieuenctid Môn ac aelodau ifanc o’r gymuned ym Moelfre.
Cafwyd buddsoddiad gan PACT tuag at brosiect cymunedol a welodd 17 o bobl ifanc rhwng 11-17 oed yn cymryd rhan mewn ymgyrch codi sbwriel, ac hefyd mynychu sesiynau efo’r RNLI am ddiogelwch yn y dŵr, ac efo’r swyddog ieuenctid camddefnyddio sylweddau.
Gorffennodd y prosiect efo helfa wyau Pasg i wobrwyo’u cyfranogiad.
Dywedodd SCCH Iona: “ Mae prosiectau ieuenctid mor bwysig, er mwyn creu cyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu sgiliau newydd i bobl ifanc.
“’Rydym yn gwerthfawrogi buddsoddiad PACT, sy’n caniatáu i ni annog awyrgylch grŵp gadarnhaol i bobl ifanc, er mwyn iddynt ddatblygu balchder yn eu cymunedau, ac i ystyried eu diogelwch eu hunain pan fyddant allan efo ffrindiau.
“Mae’r bobl ifanc a gymerodd rhan wedi gwneud gwaith da, a ‘dwi’n falch eu bod wedi mwynhau eu hunain.
“’Dw i hefyd eisiau diolch i’r gwasanaethau ieuenctid am eu gwaith ardderchog a’u hymrwymiad yn gweithio efo’r bobl ifanc, ac am roi’r cyfleodd gwerth chweil yma iddynt.”
Dywedodd Reolwr Prosiect PACT, Dave Evans: “’Dw i mor hapus i weld gymaint o bobl ifanc yn cymryd rhan yn y prosiect hwn, yn dangos eu bod yn ran allweddol o’n cymuned. Diolch i SCCH Beckmann a’i chydweithwyr, ac i Wasanaethau Ieuenctid Môn am sicrhau fod y prosiect hwn yn llwyddiant.”