Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 37 oed wedi'i garcharu am ymosod ar ei gyn-bartner.
Ymddangosodd Karl Wayne Williams o Faes Llewelyn, Aberffraw yn Llys y Goron yr Wyddgrug ar ddydd Mercher 27 Mawrth ar ôl pledio'n euog i dagu yn fwriadol ac ymosod gan achosi niwed corfforol.
Ar 3 Chwefror fe wnaeth Williams ymosod ar ei gyn-bartner, gan afael yn ei gwddf a'i thagu hyd nes nad oedd hi'n gallu anadlu. Ceisiodd ddianc ond parhaodd Williams i ymosod arni, gan guro ei hwyneb a'i choesau.
Mi wnaeth Williams ei thagu eto a'i hatal rhag gadael, gan ei bygwth wrth iddi sgrechian am help.
Heddiw cafodd ei garcharu am bedwar mis.
Dywedodd Ditectif Gwnstabl Katy Hughes: “Roedd hwn yn ymosodiad treisgar a wnaeth i'r dioddefwr ofni am ei bywyd. Rhaid canmol ei dewrder yn ystod yr ymchwiliad hwn.
“Ein blaenoriaeth yw mynd i'r afael ag adroddiadau o drais yn erbyn merched a genethod ac fe wnawn ni barhau i ddod â throseddwyr o flaen eu gwell.
“Os ydych yn profi cam-drin domestig neu os ydych yn poeni am rywun sy'n cael ei gam-drin, rhowch wybod i ni neu cysylltwch ag asiantaeth sy'n eich cefnogi.
"Fe wnawn wrando arnoch chi ac ymchwilio yn drylwyr i bob adroddiad."
Ymgyrch Unite yw ein hymateb i drais yn erbyn merched a genethod. Ceir mwy o wybodaeth yma - Ymgyrch Unite | Heddlu Gogledd Cymru