Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dau gyn-swyddog yr heddlu, a wnaeth “sylwadau creulon, brawychus a sarhaus” wedi eu canfod eu bod wedi mynd yn erbyn Safonau Ymddygiad Proffesiynol ynglŷn ag Ymddygiad Annheilwng mewn Gwrandawiad Camymddwyn ym Mhencadlys yr Heddlu ym Mae Colwyn heddiw (dydd Llun, 29 Ebrill).
Buasai’r cyn-swyddogion, Cwnstabl Iwan Williams a Chwnstabl Terence Flanagan, a ymddiswyddodd cyn y gwrandawiad, wedi cael eu diswyddo petaent yn dal i wasanaethu’r heddlu. Maent wedi eu rhoi ar y “Rhestr Gwaharddiad”, sy’n golygu na fyddent yn medru ymuno fel swyddog heddlu unrhyw bryd yn y dyfodol.
Dywedodd y Prif Gwnstabl, Amanda Blakeman KPM, a gadeiriodd y gwrandawiad heddiw: “Does dim lle i ymddygiad fel hyn yn Heddlu Gogledd Cymru, nac yn ein cymdeithas. Mae’n hollol annerbyniol, ac ‘rwy’n parhau i fod yn ymroddgar i ganfod a delio yn gyflawn ac yn gryf efo unrhyw un sydd ddim yn dangos safonau proffesiynol bob amser, sydd o’u hangen i ennill a chadw parch ac ymddiriedaeth ein cymunedau lleol. ‘Dwi’n disgwyl ymddygiad o’r safon gorau gan fy swyddogion a staff.
“ Mae llawer o aelodau’r cyhoedd yn teimlo fel ydw i, bod trafodaeth rhwng swyddogion am ddioddefwr cam-drin domestig a chydweithwyr yn annerbyniol ac yn bendant ddim yr ymddygiad a’i ddisgwylir gan swyddogion yr heddlu.
“Mae gan y cyhoedd hawl i ddisgwyl bod swyddogion a staff HGC yn gweithredu i’r safon uchaf bosib o ymddygiad proffesiynol. Dydi’r ffaith bod y sgwrs yma wedi digwydd i ffwrdd o’r cyhoedd ddim yn lleihau’r effaith a’r niwed mae wedi achosi.
“Ni fydd sylwadau misogynistig, gwahaniaethol, na rhywioledig yn cael eu goddef mewn gwasanaeth fodern. ‘Rwyf wedi bod yn glir ein bod wedi ymroi i newid ein diwylliant ac i sicrhau bod trais yn erbyn merched a genethod yn cael ei ddileu.
“’Rwyf yn gwbl ymwybodol bod y mwyafrif o fy nghydweithwyr yn Heddlu Gogledd Cymru yn ymddwyn yn rhagorol, pan ar ddyletswydd neu ddim. Byddent yn teimlo yn siomedig, fel ydw i, am yr ymddygiad a amlinellwyd.”