Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
'Da ni'n ymchwilio lladrad pump o faniau Mercedes Sprinter o ardal Sir y Fflint yn ystod y mis diwethaf.
Cafodd y tair fan gyntaf eu dwyn dros nos ar 9 Chwefror o gyfeiriadau ar Ffordd Llaneurgain ym Mynydd Fflint, Ffordd Beaconsfield yn Shotton a Ffordd Aber yn y Fflint.
Cafodd y bedwaredd fan ei dwyn oddeutu 10.30pm ar 17 Chwefror o gwrt ar y Stryd Fawr yn Saltney.
Cafodd y ddwy fan arall eu dwyn oddeutu 9.30pm yn ystod gyda'r nos 25 Chwefror o gwrt yn ardal parc diwydiannol Penarlâg ar Manor Road.
Dywedodd Kelsey Reed, Swyddog Diogelu Trwy Ddyluniad: "'Da ni'n rhybuddio perchnogion fan wirio diogelwch eu cerbydau'n dilyn cynnydd mewn lladradau o ardal Sir y Fflint.
"Mae ein hymholiadau i'r adroddiadau hyn yn parhau. 'Da ni'n cynghori pob perchennog fan, ac yn enwedig y rhai hynny sy'n berchen ar faniau Mercedes Sprinter, ystyried cymryd camau ychwanegol er mwyn gwneud eu cerbydau'n saff.
"Buasem ni'n argymell prynu clo llyw hefo achrediad Diogelu drwy Ddyluniad, sy'n golygu fod yr eitem wedi cael ei hasesu o ran ffyrdd o ddwyn hysbys.
"Fel arall, gallech ystyried blwch pedal, sy'n declyn sy'n mynd dros y pedalau ac sydd hefo cloeon, sy'n atal unrhyw un rhag gyrru i ffwrdd.
"Byddai buddsoddi yn unrhyw un o'r teclynnau hyn yn ei gwneud hi'n anodd iawn i fan gael ei dwyn."
Dylai unrhyw un sydd hefo gwybodaeth a all helpu ein hymchwiliadau gysylltu hefo ni, gan ddyfynnu rhif cyfeirnod Q027465.
Ewch ar ein gwefan ni am fwy o wybodaeth ar sut i gadw eich cerbydau'n saff.