Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae'r heddlu yn ymchwilio i ymosodiad ar ddefaid a ddigwyddodd ar ddydd Sul 18 Chwefror yn Nhalysarn, Gwynedd.
Bu adroddiadau tua 3.45pm pan welwyd ci yn rhedeg yn rhydd mewn cae yn ardal Lon Cilgwyn yn Nhalysarn gan anafu dafad. Dywedodd PC Michelle Allsup, o Dîm Troseddau Cefn Gwlad: "Roedd y ddafad yn feichiog ac roedd hyn yn achos gofid mawr i'r perchennog.
"Mae aflonyddu ar ddefaid yn drosedd. Mae caniatáu i gŵn fod allan o reolaeth o gwmpas anifeiliaid fferm yn drosedd, hyd yn oed os nad yw'r anifeiliaid yn cael eu hanafu.
"Mae'r cyfnod wyna yn digwydd ar hyn o bryd ac mae'r ffermwyr yn gweithio bob awr i ddiogelu eu hanifeiliaid ac yn sicrhau bod yr ŵyn yn cael eu geni'n iach a diogel. Mae aflonyddu ar ddefaid yn achosi poen a dioddefaint ac yn effeithio ar y gymuned amaethyddol yn ariannol ac yn feddyliol.
"Sicrhewch fod eich ci ar dennyn byr bob amser o gwmpas anifeiliaid fferm."
Gofynnir i unrhyw un sydd hefo gwybodaeth am y digwyddiad hwn gysylltu hefo'r heddlu drwy'n gwefan neu drwy ffonio 101 gan ddyfynnu cyfeirnod Q023974.