Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rydym yn parhau i chwilio am wybodaeth am ddynes 50 oed o ardal Ynys Lawd ar ôl iddi ddiflannu fis diwethaf.
Aeth y ddynes ar goll dros nos rhwng 11.30pm, 29 Ionawr a 9.30am, 30 Ionawr.
Er gwaethaf ymdrechion gan nifer o asiantaethau yn y dyddiau yn dilyn y diflaniad, nid yw hi wedi cael ei darganfod.
Roedd y ddynes yn gwisgo 'onesie' gwyn, het 'bobble' gwyn, esgidiau gwyrdd a 'puffer jacket' du.
Daethpwyd o hyd i beth o’i heiddo yn y môr ger Ynys Lawd.
Dywedodd y Prif Arolygydd Ardal Robert Rands: "Rydym yn estyn ein cydymdeimlad at deulu a chyfeillion y ddynes yn ystod y cyfnod anodd hwn ac rydym yn rhoi pob cefnogaeth iddynt."
"Dwi'n apelio ar unrhyw un sydd wedi ei gweld, neu sydd wedi gweld Nissan Micra 2006 arian neu sydd â thystiolaeth ar CCC neu gamera cerbyd yn ardal Ynys Lawd i gysylltu â ni".
Gofynnir i unrhyw un sydd hefo gwybodaeth am y digwyddiad hwn gysylltu hefo'r heddlu drwy'n gwefan neu drwy ffonio 101 gan ddyfynnu cyfeirnod 47124.