Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dafad feichiog wedi cael ei lladd mewn ymosodiad gan gi yn Sir y Fflint.
Anafwyd tair dafad feichiog arall hefyd.
Digwyddodd yr ymosodiad mewn cae ger Lôn Kelsterton yn Llaneurgain rhwng 10am ar ddydd Iau, 15 Chwefror a 9am ar ddydd Gwener, 16 Chwefror.
Dywedodd PC Michelle Allsup o Dîm Troseddau Cefn Gwlad: “Rwyf yn apelio ar unrhyw un gyda gwybodaeth yng nghyswllt y digwyddiad i gysylltu â ni cyn gynted â phosib.
“Mae ymosodiadau ar anifeiliaid fferm yn erchyll, nid yn unig i’r anifeiliaid eu hunain, ond mae hefyd yn cael effaith andwyol ar gymunedau, yn ariannol ac yn feddyliol.
“Mae’n gyfnod wyna ar hyn o bryd ac mae ffermwyr yn gweithio ddydd a nos yn diogelu eu hanifeiliaid, er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu geni’n iach ac yn ddiogel.
“Gwnewch yn siŵr bod eich ci yn cael ei gadw ar dennyn byr o gwmpas da byw bob amser.
“Os ydych yn gwybod am gi sydd wedi dianc mewn ardal wledig, dylech gysylltu â’r heddlu cyn gynted â phosib fel y gall ffermwyr a thirfeddianwyr gael gwybod.”
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â ni ar 101, neu drwy’r wefan, gan ddefnyddio’r cyfeirnod Q022756.