Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Wrth nesáu at Galan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt 2023, gwnaeth Heddlu Gogledd Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ddod at ei gilydd er mwyn lansio cystadleuaeth ar gyfer pobl ifanc ar draws Gogledd Cymru.
Rhoddodd Her Ymgyrch Bang y cyfle i bobl ifanc dalu'n ôl i'w cymuned a bod â chyfle o ennill gwobrau gwych iddynt eu hunain neu eu clwb nhw. Roedd hefyd yn ffordd wych i bobl ifanc ddod at ei gilydd gyda'u ffrindiau a helpu yn eu hardal leol.
Roedd sawl syniad am heriau gwahanol er mwyn tanio rhywfaint o ysbrydoliaeth. 'Da ni'n falch o ddweud ein bod ni wedi cael llawer o ymgeision gwych ar draws Gogledd Cymru. Roedden nhw i gyd gan bobl ifanc hefo syniadau gwych ar sut i wella eu cymunedau nhw.
'Da ni'n gwybod eich bod chi'n ysu gwybod pwy oedd yr enillwyr, felly dyma nhw!
Yn gyntaf oedd Summerhouse After School Club yn y Rhyl.
Gwnaeth y bobl ifanc yn y clwb godi £300 drwy sgorio 6,666 o goliau yn eu man chwarae. Fe wnaethon nhw ddefnyddio'r pres hwn er mwyn rhoi chwaraewyr MP3 i gartref gofal lleol sy'n gofalu am bobl sy'n byw hefo dementia. Fe gawson nhw £750 fel enillwyr y wobr – da iawn Summerhouse After School Club!
Yn ail oedd y grwp cymunedol Porthi Dre yng Nghaernarfon a enillodd £500.
Fe wnaeth y grŵp hwn lunio ac argraffu poster Cast neu Geiniog. Fe wnaethon nhw wedyn ymweld â llawer o gartrefi yn yr ardal er mwyn cynnig eu posteri nhw a darparu rhyngweithio cadarnhaol gan y bobl ifanc hefo'u cymuned.
Daeth Ceidwaid Glan Conwy yn drydydd, gan ennill £250.
Fe wnaeth y Ceidwaid glirio ac ailblannu'r ardd goffa gymunedol yn barod ar gyfer Dydd y Cofio.
Doedden ni methu penderfynu rhwng y ddau gystadleuydd hyn, felly fe gawson nhw gydradd 4ydd.
Ysgol Penygelli yng Nghoedpoeth (ar y dde). Gwnaeth y clwb Eco godi sbwriel yn yr ardal a chynnwys y gymuned oedd wedi ymddeol leol.
Ysgol Alexandra o Wrecsam (ar y chwith). Fe wnaeth y disgyblion greu posteri Cast neu Geiniog a stribed comig am ddiogelwch ar Galan Gaeaf ar gyfer plant eraill.
Dywedodd y Rhingyll Beth Jones o Hyb Atal Heddlu Gogledd Cymru: "Roedden ni'n falch o dderbyn cymaint o ymgeision amrywiol ar gyfer ein Her Ymgyrch Bang 2023 eleni a gafodd ei chynnal dros gyfnod Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt.
Mae pawb gyrhaeddodd y rownd derfynol wedi dangos gwaith cymunedol gwych a dylen nhw fod yn falch o'r hyn maen nhw wedi'i wneud. Byddwn ni'n rhedeg mwy o heriau i grwpiau o bobl ifanc 4-18 oed eleni. Felly, os fysa chi'n hoffi i'ch grŵp chi gysylltu, cadwch lygad allan am hysbysebion yn hwyrach yn y flwyddyn.
Dwi'n hynod ddiolchgar i PACT a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru am ymuno hefo ni er mwyn rhoi'r cyfle hwn."
Dywedodd Andy McLaren, Rheolwr Diogelwch Tân Busnes o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Roedden ni'n falch o weld cymaint o grwpiau'n cymryd rhan eleni. Mae'r cystadleuwyr i gyd yn rhoi llawer o amser ac ymdrech yn cwblhau eu cynigion, hefo'r cynigion yn amrywio cymaint ac yn dangos ysbryd cymunedol go iawn.
Roedd yn wych gweithio mewn partneriaeth hefo Heddlu Gogledd Cymru a PACT o ran y gystadleuaeth eto eleni – dod at ein gilydd er mwyn helpu gwarchod ein cymunedau ni."
Dywedodd Dave Evans, Ymddiriedolaeth Heddlu Gogledd Cymru a'r Gymuned (PACT): "Mae wedi bod yn wych gweld yr holl waith mae pobl ifanc wedi bod yn ei wneud ar draws Gogledd Cymru fel rhan o Her Ymgyrch Bang eleni.
Roedd hi'n fraint bod yn rhan o'r panel beirniadu a gallu mynd a chyfarfod y grwpiau buddugol. Ar ran PACT a'n bwrdd ymddiriedolaeth, buaswn i'n hoffi llongyfarch yr holl bobl ifanc a gymerodd ran yn Her eleni ac a roddodd gymaint o ymdrech i'w prosiectau cymunedol nhw."