Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 21 oed wedi cael ei garcharu ar ôl dwyn pwrs dynes oedrannus ym Mhwllheli'r wythnos ddiwethaf.
Gwnaeth Solayman Daha, o ddim cartref sefydlog, ymddangos yn Llys Ynadon Llandudno echdoe (26 Chwefror) wedi'i gyhuddo o ddwyn oddi ar rywun.
Ar ddydd Mawrth 20 Chwefror, gwnaeth Daha dargedu dynes wrth iddi siopa yn siop Iceland ym Mhwllheli. Fe wnaeth ei dilyn o gwmpas y siop cyn dwyn £175 o'i phwrs hi.
Fe wnaeth dderbyn wyth wythnos o garchar ac mae wedi cael gorchymyn i dalu iawndal.
Dywedodd yr Arolygydd Ardal Darren Kane: "Ni chaiff targedu aelodau oedrannus ein cymuned ei oddef a bydd yn cael ei ddelio hefo'n gyflym.
"'Da ni'n parhau gweithio hefo partneriaid a busnesau lleol er mwyn gwarchod trigolion bregus rhag troseddwyr."