Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
'Da ni wedi gweld cynnydd mewn adroddiadau am sgiâm lle mae rhywun yn cysylltu hefo dioddefwyr yn honni mai eu cwmni ffôn symudol ydy nhw, yn cynnig bargen dda am uwchraddio ffôn.
Yn dilyn yr alwad ffôn, bydd y twyllwr yn cael mynediad at gyfrif ffôn symudol y dioddefwr ac yn archebu ffôn newydd ar eu cytundeb.
Unwaith mae'r ffôn yn cael ei ddanfon i'r dioddefwr, mae rhywun yn cysylltu hefo nhw ac yn dweud fod camgymeriad wedi bod ac mae angen dychwelyd y ffôn.
Unwaith mae'n cael ei bostio, mae'r twyllwyr yn derbyn y ffôn neu mae'n cael ei anfon at gynorthwyydd er mwyn osgoi darganfyddiad, gan adael y dioddefwr hefo'r cytundeb am y ffôn wedi'i uwchraddio newydd.
Mae adroddiadau hefyd wedi bod am dwyllwyr yn mynd i dŷ’r dioddefwr yn honni bod yn ddosbarthwyr ac yn gofyn am y ffôn yn ôl, gan egluro ei fod wedi'i ddanfon mewn camgymeriad.
Dros y penwythnos, gwnaeth dynes o Ogledd Cymru dderbyn rhybudd heddlu ar ôl cytuno derbyn parsel twyllodrus yn ei chartref am ffi.
Daeth fel rhan o ymgyrch genedlaethol ar waith drwy fis Chwefror gan Uned Troseddau Economaidd Heddlu Gogledd Cymru, ynghyd â thimau eraill ar draws y DU, er mwyn mynd ati aflonyddu twyll.
Mae'r gweithgarwch yn cael cymorth Ymgyrch Henhouse, sef menter gan y Ganolfan Troseddau Economaidd Genedlaethol er mwyn rhoi cyllid i ganiatáu heddluoedd ymgymryd â gweithgarwch gweithredol yn erbyn twyllwyr.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Iolo Edwards: "Os 'da chi'n derbyn gwahoddiad i dderbyn pecyn drwy'r post neu ganiatáu i'ch cyfrif banc gael ei ddefnyddio er mwyn trosglwyddo cronfeydd, y tebygolrwydd ydy eich bod yn helpu twyll ddigwydd.
"Mae pob posibilrwydd y cewch eich nodi a bydd yr heddlu yn cnocio'r drws. Y canlyniad fydd cofnod troseddol.
Ychwanegodd: "Hefyd, os ydy rhywun sy'n honni bod yn ddosbarthwr yn gofyn am barsel yn ôl, daliwch afael ar y pecyn a cysylltwch hefo'r cwmni'n uniongyrchol. Os 'da chi'n teimlo mewn unrhyw berygl, ffoniwch yr heddlu.
"Os ydy rhywun yn ffonio chi am y danfoniad, mi ddylech chi wneud galwad ffôn newydd i'r cwmni wnaeth anfon y nwyddau er mwyn dilysu o'r ydy'r dychweliad yn ddilys.
"Os 'da chi'n dioddef twyll o'r fath, cysylltwch hefo'ch darparwr ffôn symudol er mwyn eu cynghori nhw'n syth bin. Byddan nhw wedyn yn dechrau ymchwiliad eu hunain. Riportiwch y mater wrth yr heddlu ar 101 neu Action Fraud 0300 123 2040."
#HenhouseIII