Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae walabi ifanc a gafodd ei ddwyn ar goll o hyd. Riportiwyd bod Walter y walabi wedi cael ei ddwyn o gartref ar Ffordd Caergybi ym Mae Cemaes, rhwng 4am-6am ar ddydd Iau, 18 Ionawr.
Rydym yn parhau i apelio ar unrhyw un gyda gwybodaeth i gysylltu â ni.
Dywedodd SCCH Rhys Evans o’r Tîm Troseddau Cefn Gwlad: “Mae Walter tua 11 mis oed a heb gael ei ddiddyfnu yn iawn sy’n golygu ei fod yn cael ei fwydo gan ei fam o hyd.
“O ganlyniad, mae ei berchennog yn pryderi’n fawr amdano ac am iddo gael ei ddychwelyd cyn gynted â phosib.
“Rydym yn parhau i apelio ar unrhyw un a welodd Walter neu sydd â thystiolaeth ar gamera o’r ardal o gwmpas yr amser y cafodd ei ddwyn i gysylltu â’r heddlu cyn gynted â phosib.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth a allai ein cynorthwyo gyda’n ymholiadau gysylltu â ni drwy ein gwefan neu drwy alw 101, gan ddyfynnu 24000085021.