Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rydym yn apelio am wybodaeth yn dilyn adroddiad bod aderyn gwyllt wedi cael ei saethu wrth ymyl Afon Dyfrdwy yn yr Holt.
Credir i’r saethu ddigwydd gyda gwn aer, tua 2pm, ar ddydd Sul 4 Chwefror tua 2 o’r gloch y prynhawn.
Mi wnaeth aelod o’r cyhoedd a oedd yn cerdded yn yr ardal ar y pryd riportio clywed sŵn saethu cyn gweld aderyn, hwyaden o bosib ,yn dioddef. Ar ôl clywed ergyd arall, gwelwyd yr aderyn yn arnofio yn llonydd ar yr afon.
Dywedodd PC Chris James o’r Tîm Troseddau Cefn Gwlad: “Gwelwyd dau berson ifanc yn yr ardal ar adeg y digwyddiad. Os oeddech yn yr ardal ac wedi eu gweld, neu os ydych yn gwybod pwy ydynt, rhowch wybod i ni.
“Mae hefyd wrth gwrs yn drosedd i fod ag arf mewn lle cyhoeddus heb reswm digonol, ac i ladd neu anafu aderyn gwyllt yn fwriadol o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981.
“Gall y math hwn o drosedd yn erbyn bywyd gwyllt arwain at 6 mis yn y carchar, dirwy di-derfyn neu’r ddau. “Yn dilyn y digwyddiad hwn, bydd mwy o swyddogion ar batrôl yn yr ardal.
“Rydym yn annog unrhyw un gyda gwybodaeth yng nghyswllt y digwyddiad i gysylltu â ni cyn gynted â phosib, naill ai drwy alw 101, neu drwy’r wefan, gan ddyfynnu 24000146010.”