Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi ailddatgan ei ymroddiad i weithio cynaliadwy drwy ei bartneriaeth hefo menter gymdeithasol leol.
Mae cydweithrediad hefo North Wales Recycle I.T. ar Ynys Môn wedi sicrhau fod hen gyfrifiaduron yr heddlu wedi cael eu haddasu at ddiben arall ar gyfer unigolion sy'n byw ledled Gogledd Cymru.
Mae teuluoedd a phlant ymysg y rhai hynny sydd wedi elwa o'r cynllun menter gymdeithasol nid er elw, sef yr unig wasanaeth o'i fath yn y rhanbarth.
Mae rhoddion o gyfrifiaduron gan yr heddlu hefyd wedi hwyluso datblygiad cyrsiau creu cyfrifiaduron ar gyfer oedolion a phlant o dan anfantais o ysgolion uwchradd lleol.
Dywedodd Gareth Roberts, Pennaeth Seilwaith Technoleg Heddlu Gogledd Cymru: "Hefo'n hen git, unwaith y byddai ein data wedi'i dynnu, byddai o'r blaen wedi cael ei glustnodi i gael gwared arnyn nhw.
"Byddai'r teclynnau wedyn wedi cael eu torri lawr i rannau amrywiol a byddai rhai wedi darfod fel sgrap.
"Hefo'r cydweithrediad hwn, bydd cit sydd bellach yn anaddas ar ein cyfer ni dal yn ddefnyddiol i sefydliadau eraill.
"Er enghraifft, dwi'n gwybod fod rhai o'n hen offer wedi cael ei ddefnyddio mewn cartrefi nyrsio yn ystod y pandemig COVID, a ganiataodd i drigolion siarad hefo'u hanwyliaid mewn cyfnod anodd iawn.
"'Da ni'n teimlo fod y cydweithrediad hwn wedi bod yn rhywbeth cadarnhaol i gymuned ehangach Gogledd Cymru sydd wedi elwa o'r berthynas barhaus hon.
"Dyma oedd ein nod ni pan wnaethon ni ddechrau'r hon hefo North Wales Recycle I.T. ac fe wnawn ni geisio parhau gweithio hefo'n gilydd am flynyddoedd i ddod."
Dywedodd Rebekah Lowther, Cyfarwyddwr Gweithredol North Wales Recycle I.T.: "Dwi eisiau mynegi ein diolch dyfnaf am yr help parhaus 'da ni 'di gael gan Heddlu Gogledd Cymru.
"Hefo help yr heddlu, 'da ni wedi rhoi dros £113,000 gwerth o gyfrifiaduron i unigolion, plant a theuluoedd ledled Gogledd Cymru ers mis Ionawr 2021. Mae eich ymroddiad i'r achos hwn wedi gwneud gwahaniaeth go iawn i fywyd cymaint o bobl.
"Mae North Wales Recycle I.T. yn gweithio hefo'n cymunedau er budd pawb. O ddarparu swyddi i bobl sy'n aml yn cael eu hanwybyddu yn y farchnad lafur i roi gliniaduron i grwpiau cymunedol lleol, 'da ni'n hyrwyddo ailddefnyddio offer TG mewn ffordd gyfrifol yn gymdeithasol.
"Mae ein cwmni ni wedi'i greu ar yr addewid na fydd offer diangen a fydd yn mynd drwy ein dwylo yn cael eu gwaredu'n anghynaladwy.
"Felly, gall awdurdodau lleol, busnesau mawr a bach, sefydliadau ac unigolion eraill fod yn hyderus fod eu data'n cael ei ddinistrio hefo'r proffesiynoldeb a'r diogelwch mwyaf. Bydd eu 'gwastraff' TG yn cael ei ailddefnyddio gan y bobl, teuluoedd a'r cymunedau maen nhw'n eu gwasanaethu."
Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: “Dwi'n falch o weld offer TG ar draws Heddlu Gogledd Cymru yn cael ei ailgylchu ac yn cael ei ddefnyddio'n dda er budd pobl ledled ar draws y rhanbarth.
"Nid yn unig fod y bartneriaeth rhwng North Wales Recycle I.T. a Heddlu Gogledd Cymru yn well er budd yr amgylchedd – sy'n bryder mawr i ni gyd y dyddiau hyn – ond mae ailddefnyddio'r offer hwn yn helpu ehangu mynediad at gyfrifiaduron, hyrwyddo cynhwysiant ac yn rhoi'r cyfle i blant gynyddu eu sgiliau gwaith a TG.
"Fel Comisiynydd Heddlu a Throsedd, dwi'n deall fod trigolion yn dymuno gweld yr Heddlu'n cyflawni gwerth i gymdeithasol ynghyd â gwerth am arian. Dwi'n credu fod y bartneriaeth hon yn cyflawni'r amcanion hyn."