Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae swyddogion Gwynedd yn cynyddu patrôl er mwyn targedu gyrru gwrthgymdeithasol ym Mhwllheli.
Bydd patrolau amlwg yn digwydd yn yr ardal yn ystod y nosweithiau a dros nos mewn ardaloedd sy'n dioddef ymddygiad gwrthgymdeithasol, yn cynnwys y Maes, y Cob a meysydd parcio cyfagos.
Bydd swyddogion yn delio ag unrhyw un sy'n ymddwyn mewn modd gwrthgymdeithasol neu sydd yn torri rheolau traffig, ac yn gosod rhybuddion, dirwyon, adroddiadau troseddau traffig ac os oes rhaid, yn atafaelu ac yn arestio. Bydd profion anadlu yn digwydd hefyd ar ochr y ffordd.
Dywedodd Rhingyll Simon Barlow: “Dan ni wedi derbyn nifer o adroddiadau gan drigolion yn rhannu ein gofidion ynglŷn â gyrru'n beryglus yn ardal Pwllheli.
“Er mwyn atal ymddygiad gwrthgymdeithasol pellach mae mis Medi yn cael ei neilltuo i dargedu'r gofidion hyn a gosod patrolau ychwanegol i fynd i'r afael â'r problemau hyn.
"Hoffwn annog unrhyw un gyda gofidion yn ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ym Mhwllheli i riportio'r digwyddiadau i ni."
Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â ni drwy'r wefan, neu drwy alw 101.