Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Swyddog yn Heddlu Gogledd Cymru wedi ennill gwobr am ei gwaith yn mynd i'r afael â thrais yn erbyn merched a genethod yn Wrecsam.
Enillodd Yr Arolygydd Claire McGrady y categori mewn digwyddiad Trais yn Erbyn Merched a Genethod a gynhaliwyd yn Llundain ar dydd Mercher, 6 Medi.
Hi yw'r unig swyddog yng Nghymru i dderbyn gwobr.
Y digwyddiad hwn yw'r cyntaf i'w gynnal gan Gyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu (NPCC) a'r Coleg Plismona yn cydnabod gwaith swyddogion heddlu, staff a gwirfoddolwyr yn mynd i'r afael â thrais yn erbyn merched a genethod (VAWG).
Cymeradwywyd Arolygydd McGrady am yr effaith mae ei gwaith wedi cael ar strydoedd Wrecsam yn creu amgylchedd diogel i ferched a genethod dros y tair blynedd diwethaf, sydd wedi arwain at gynnydd sylweddol mewn riportio troseddau rhywiol difrifol.
Mae wedi bod yn llwyddiannus yn sicrhau bron i £1miliwn o arian i Wrecsam o'r Swyddfa Gartref fel rhan o fenter Strydoedd Diogelach a'r Safety of Women at Night (SWAN), a wnaeth ariannu gosod a diweddaru CCC a golau newydd gan sicrhau bod golau gwell ar lwybrau yng nghanol y ddinas.
Cafodd yr Arolygydd McGrady hefyd ei chydnabod am arwain ar hyfforddiant ar safleoedd trwyddedig yn y ddinas a'i gwaith gyda'r heddlu ar batrôl i ddiogelu merched bregus yn y nos.
Dywedodd yr Uwcharolygydd Jason Devonport, arweinydd VAWG Heddlu Gogledd Cymru: “Mae Claire wedi bod yn ysbrydoliaeth i gymaint o gydweithwyr a rhanddeiliaid dros nifer o flynyddoedd gan ymroi i wneud strydoedd Wrecsam yn fwy diogel.
“Mae nawr yn gweithio fel arweinydd Tactegol VAWG yn cefnogi nifer ohonom ni yn gweithio ar draws yr heddlu i gyd. Rwyf yn falch iawn o fod yn gweithio gyda Claire ac yn edmygu ei hymroddiad i'r maes hwn o blismona.
"Mae wedi gosod enghreifftiau o atebolrwydd ac yn defnyddio dulliau manwl o ddatrys problemau, mae'r wobr hon yn adlewyrchiad o'i harweiniad, gyda'i chyfoedion a rheolwyr uwch gan fod ganddi'r gallu i annog a hyrwyddo gweithgareddau y mae'n credu y bydd yn ychwanegu gwerth."
"Rydym yn hynod falch o'n henillydd. Da iawn, a llongyfarchiadau i Claire ar ei gwobr."
Datblygwyd y digwyddiad gan heddluoedd a chynrychiolwyr o elusennau yn cynnwys SafeLives, Ymddiriedolaeth Suzy Lamplugh a Karma Nirvana, ynghyd â chymdeithasau staff yr heddlu.
Derbyniwyd dros 140 o geisiadau a gafodd eu barnu yn y rhanbarthau gan heddlu a phaneli trydydd sector, cyn cael ei roi o flaen panel cenedlaethol a benderfynwyd ar yr 13 enillydd.
Roedd rhaid i'r enillwyr ddangos sut i adeiladu ymddiriedaeth a hyder, canolbwyntio ar y dioddefwr, a dangos effaith, yn cynnwys erlid troseddwyr.
Ymysg yr enillwyr eraill roedd ymgyrch i daclo casineb at fenywod ac ymddygiad rhywiaethol yn fewnol gan Heddlu Avon a Gwlad yr Haf, lleihau trais yn erbyn gweithwyr rhyw yn Heddlu Cleveland, sesiynau addysgiadol i ysgolion gan Heddlu'r West Midlands a goroeswr trais rhywiol sydd wedi helpu Heddlu Swydd Lincoln drwy adrodd ei stori i'r system cyfiawnder troseddol er mwyn cefnogi dioddefwyr eraill.
Dywedodd DCC Maggie Blyth, Cydlynydd trais yn erbyn merched a genethod Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu, : "Diolch i bawb sy'n gweithio ym maes plismona sy'n canolbwyntio ar wneud cymdeithas yn fwy diogel i ferched a genethod.
"Mae cael paneli beirniadu rhanbarthol a chenedlaethol o arbenigwyr tu fewn a thu allan i faes plismona wedi ein helpu ni i ganolbwyntio ar enillwyr sydd wedi dangos dealltwriaeth o ddisgwyliadau ac anghenion dioddefwyr ond hefyd ar weithgareddau sy'n gynaliadwy.
“Dim ond drwy fodelu'r gwaith ardderchog hwn gallwn ddisgwyl cael cysondeb ar gyfer merched a genethod ar draws ein heddluoedd.
"Dangosodd y ceisiadau sut yr ydym yn erlid troseddwyr ac yn dangos iddynt nad oes unman i guddio. Rydym am i blismona gyflawni mwy ac er bod gennym lawer i wneud o hyd, rwyf wrth fy modd gan safon y gwaith sydd ar y gweill."