Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Daeth criw o gricedwyr brwd ar draws Gogledd Cymru at ei gilydd i frwydro yn rownd derfynol Tarian Her Heddlu Gogledd Cymru. Mae'r digwyddiad yn rhan annatod erbyn hyn o galendr y cricedwyr iau.
Cafodd y gystadleuaeth flynyddol, sydd bellach yn ei 20fed blwyddyn, ei chefnogi gan gyllid Ymddiriedolaeth Heddlu Gogledd Cymru a'r Gymuned (PACT).
Chwaraewyd y gemau terfynol, sy'n cael eu rhedeg ar y cyd hefo Bwrdd Criced Cymru, yng Nghlwb Criced Mochdre ar ddydd Sul 3 Medi.
Dechreuodd y diwrnod gyda'r rownd derfynol o dan 11 rhwng Clwb Criced Conwy a Chlwb Criced Penarlâg. Gwnaeth y cricedwyr ifanc o Gonwy ennill gem yr oedd cystadlu brwd ynddi. Dilynwyd y gêm hon gan un i'r rhai o dan 13 oed rhwng Clwb Criced Broughton Hall Caer a Chlwb Criced yr Wyddgrug. Enillodd yr Wyddgrug o drwch blewyn.
Y gêm olaf oedd y gêm derfynol i rai o dan 15 oed rhwng Llandudno a Phenarlâg. Fe wnaeth Llandudno chwarae'n dda ond Penarlâg gododd y darian.
Dywedodd y Rhingyll Neal Parkes, a gydlynodd y twrnamaint hefo George Morris o Griced Cymru: “Roedd y diwrnod yn llwyddiant ysgubol unwaith eto. Cawsom ni'n bendithio hefo awyr las hyfryd a thymheredd fel mis Gorffennaf a wnaeth barhau drwy gydol y diwrnod."
“Dylid canmol y gwirfoddolwyr ac aelod o bwyllgor Clwb Criced Mochdre am ddarparu cyfleusterau gwych a pharatoi tair wiced ardderchog ar gyfer y diwrnod.
"Dylid hefyd crybwyll y dyfarnwyr ar y diwrnod yn arbennig sef Richard Weed, Hugh Kelly a Phil Robinson. Heb eu help nhw, ni fyddai'r diwrnod wedi digwydd."
Dywedodd Dave Evans, rheolwr prosiect PACT: "Roeddem yn falch o allu cefnogi'r twrnamaint hwn unwaith eto eleni.
Mae'n wych gweld cymaint o bobl ifanc ledled Gogledd Cymru'n cymryd rhan bob blwyddyn a llongyfarchiadau mawr i'r holl dimau a gymerodd ran.
"Ar ran ein bwrdd ymddiriedolwyr, buaswn yn hoffi diolch i drefnwyr y twrnamaint sef Neal Parkes a George Morris, am yr amser a'r ymdrech maent wedi'i roi er mwyn cynnal y digwyddiad bob blwyddyn."
Cewch wybod mwy am PACT ar www.pactnorthwales.co.uk