Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Faint o weithiau 'da chi wedi colli allan ar le i barcio oherwydd parcio gwael rhywun, neu wedi gorfod cerdded ar y ffordd achos bod y palmant wedi'i rwystro gan gar?
Rhwystredig? Yn bendant.
Anghyfreithlon? Dim o anghenraid.
'Da ni'n galw ar fodurwyr i fod yn fwy ystyriol wrth barcio eu cerbydau. Mae Heddlu Gogledd Cymru'n derbyn nifer helaeth o adroddiadau bob blwyddyn gan drigolion yn cwyno am barcio. Fodd bynnag, dydy llawer iawn o'r rhain yn faterion i'r Heddlu ond gellir eu hosgoi hefo ychydig mwy o ystyriaeth i bobl eraill.
Felly, pwy sy'n delio hefo beth?
Materion i hysbysu'r Heddlu amdanyn nhw:
Materion i hysbysu'r cyngor lleol amdanyn nhw:
Os ydych yn parcio tu hwnt i'r ffiniau hyn, yna mae'n cael ei ystyried yn anystyriol. Mae hyn yn golygu ei fod yn fater sifil a dylech chi drio siarad hefo'ch cymdogion, cwmni rheoli neu gyngor lleol.
Beth ydy'r broblem hefo parcio ar balmentydd?
Gall parcio ar balmant achosi llawer o broblemau i bobl gan gynnwys pobl ddall a rhannol ddal, rhieni hefo coetsis a phlant ifanc, defnyddwyr cadeiriau olwyn a phobl eraill sy'n defnyddio cymorth i symud. I'r bobl hyn, gall car wedi parcio ar y palmant olygu gorfod cerdded ar y ffordd er mwyn mynd heibio, a allai eu rhoi nhw mewn perygl.
Efallai fod y problemau hyn yn eithaf bach i lawer. Fodd bynnag, gallent fod yn fawr i bobl eraill.
Os ydy cerbyd wedi parcio ar ymyl palmant, mae'r digwyddiadau hyn yn cael eu delio yn ôl bob achos. Ar rai strydoedd, fedrwch chi ddim osgoi parcio ar ymyl palmant felly ni fyddai'r heddlu na'r cyngor lleol yn ymyrryd.
Mewn rhai achosion, gallai parcio ar ymyl palmant gyfyngu mynediad i'r bobl hynny sy'n fregus neu sy'n anabl, felly gall yr heddlu ymyrryd.
Faint o ddirwy gewch chi am barcio ar balmant?
Bydd dirwyon yn wahanol gan ddibynnu os mai'r heddlu neu'r cyngor lleol sy'n rhoi'r ddirwy. Fodd bynnag, mae'r ddirwy'n debygol o fod yn un o'r canlynol:
Buasem yn hoffi apelio ar fodurwyr i gadw llwybrau troed a phalmentydd yn glir ar gyfer cerddwyr, gan sicrhau eu diogelwch a
Pwy sy'n gorfodi parcio anghyfreithlon yn eich ardal?
Mae chwe awdurdod lleol yn cwmpasu Gogledd Cymru:
Ceir mwy o wybodaeth am fathau cyffredin o broblemau parcio ar ein gwefan – Parcio niwsans a cherbydau wedi'u gadael | Heddlu Gogledd Cymru