Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 32 oed wedi derbyn Gorchymyn Gwahardd Pêl-droed am dair blynedd am droseddau casineb ar-lein.
Ymddangosodd Ryan Scott Fitzgerald o Fryn y Môr, Llandwrog ger bron Llys Ynadon Caernarfon heddiw wedi'i gyhuddo o dan Adran 127 Deddf Cyfathrebu Maleisus 2003.
Roedd y cyhuddiad yn ymwneud â neges ar-lein hiliol wedi'i hysgrifennu gan Fitzgerald, 12 Mai 2023.
Wedi cyhoeddi ar gyfrif Twitter cyhoeddus, fe wnaeth Fitzgerald gyfaddef fod y neges ffiaidd yn cyfeirio at Dejphon Chansiri, perchennog Sheffield Wednesday sy'n dod o Wlad Thai.
Cafodd y neges, a oedd yn cynnwys sarhadau hiliol ac iaith sarhaus, ei chyhoeddi ar-lein yn fuan wedi i'r clwb o Swydd Efrog golli yn erbyn Peterborough United 4-0 mewn gem ail gyfle yn y Gynghrair Gyntaf.
Cafodd Heddlu Gogledd Cymru wybod am y digwyddiad yn dilyn adroddiad gan Uned Plismona Pêl Droed y DU (UKFPU).
Cafodd Fitzgerald orchymyn hefyd i dalu dirwy o £365.
Dywedodd yr Uwcharolygydd Simon Barrasford: "Ni ddylai neb ddioddef unrhyw fath o sarhad hiliol neu grefyddol.
"Nid oes lle i unrhyw fath o gasineb mewn cymdeithas. Dwi'n gobeithio bydd y gorchymyn gwahardd yn anfon neges glir na fydd troseddau o'r fath yn cael eu goddef.
"Gwnaeth Fitzgerald dargedu perchennog clwb pêl droed ar sail eu hethnigrwydd, mewn trosedd casineb a oedd wedi'i chymell gan hiliaeth.
"Os ydych yn gweld neu'n profi sarhad gwahaniaethol annerbyniol, ar-lein neu fel arall. Dwi'n eich annog chi hysbysu'r heddlu amdano."
Dywedodd Sam Baker, Arweinydd Troseddau Casineb yr UKFPU: “Yn anffodus mae yna bobl sy’n meddwl ei bod hi’n iawn mynd ar-lein a cham-drin chwaraewyr, rheolwyr, swyddogion ac eraill sy’n ymwneud â phêl-droed.
“Byddwn yn ymchwilio i unrhyw adroddiadau o droseddau casineb ar-lein ac yn sicrhau bod camau priodol yn cael eu cymryd, ac mae erlyniadau fel hyn yn dangos na all pobl guddio y tu ôl i broffil cyfryngau cymdeithasol a dianc â phostio’r sylwadau cas hyn.
“Mae’r bobl hynny sy’n cyflawni troseddau casineb yn cael eu hatgoffa bod y canlyniadau’n real ac y byddan nhw’n wynebu’r camau cryfaf posib, a all gynnwys cael eu gwahardd rhag mynychu gemau neu hyd yn oed ddedfryd o garchar.”